Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 2, 2012

Taith Gerdded Ddaearegol

Roedd chwe deg ohonom ni i gyd, o bob oedran rhwng blwydd ac ymhell dros oed ymddeol. Fe adawsom ni bentref Llames yng nghwmni daearegydd a cherddwraig o’r enw Luna Adrados, sydd newydd gyhoeddi llyfr am arfordir dwyreiniol Asturias. Ac wrth gerdded fe ddysgais i lawer mwy am y ffordd y mae’r tirwedd, ac yn arbennig yr afon, wedi eu ffurfio ac yn dal i ddatblygu heddiw. Roedd rhan o’r daith yn mynd drwy gae gwartheg: beth na wyddwn i o’r blaen oedd bod y teras o dir sy’n cydredeg â glan yr afon, ryw metr neu fwy yn uwch, yn dangos uchder yr afon filoedd o flynyddoedd yn ôl.

Y graig, wrth gwrs, yw’r sylfaen. cymysgedd o galchfaen karstig y llawr a quartzite wedi cael ei gludo i lawr o’r mynydd gan y dŵr. Dyna beth sy’n gyfrifol am elfennau fel y pwll uchod – crochan y cawr, marmita del gigante, yw’r enw lleol arnyn nhw, pyllau mawr llyfn a chrwn. Ond heddiw roedd dŵr y Guadamia yn isel felly doedd y dŵr ddim yn berwi yn y crochan.

gellesgen ffoto:cathasturias

Er ein bod ni’n canolbwyntio ar y creigiau a gwely’r afon, roedd digon o amser i edrych o’n cwmpas a sylwi ar y blodau, fel y gellesg mawr melyn oedd yn tyfu’n llwythi ar hyd glannau is yr afon, hyd at y pwynt lle mae heli’r llanw yn cyrraedd.

Roedd y daith i gyd yn rhan o ymgyrch lleol i addsygu pobl am y rhyfeddodau sydd i’w gweld gerllaw, a hefyd i ddiogelu mannau pwysig fel maes y bufones ar y clogwyni. Mwy am hwnnw yfory.


Responses

  1. Ia mae na rhywbeth hudolus yng nglun a thirwedd calchfaen y ffordd mae’r dwr yn diflanu ac yna ail ddangos yn rhyw le arall. Rydym ar gallchfaen yma ond nid oes gennym ogofau ond mae’r planhigion gwyllt yn ddiddorol.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: