Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 3, 2012

Taith Gerdded Ddaearegol 2

Ar ôl gweld gwaith yr afon, gwaith y môr. Ail ran ein taith gerdded ar hyd y Guadamía a’i chlogwyni. Yr un yw calchfaen arfordir dwyrain Asturias a chreigiau’r Picos de Europa 2000m yn uwch na ni. Yr un yw effaith y glaw yn y ddau le. Ond mae gyda ni’r môr hefyd. Yn ôl esboniad Luna Adrados, mae’r dŵr wastod yn anelu am y toriadau neu’r mannau gwan lle bydd yn gallu disgyn yn gynt tuag at lefel y môr. Mewn rhai llefydd, bydd hyn yn golygu tyllau cul, dwfn ofnadwy (yn gallu bod dros 1000m yn y mynyddoedd). Mae thai yn grwn, eraill yn hirgul:

 

 

 

 

Mae’r un crwn ar y chwith wedi ei lenwi â cherrig gan ffermwyr er mwyn rhwystro’r tywod sy’n cael ei chwistrellu mâs rhag lanio mewn caeau cyfagos. Mae’r un ar y dde yn enwog am drychineb pan safodd gŵr ifanc â’i ddeutroed ar bod ochr iddo yn ystod chwistrelliad a chael ei dowlu i’r awyr ynghyd â nifer o gerrig. Bu farw.

Dyw un twll hirgul ddim yn ddigon ar gyfer y bufones, wrth gwrs. Beth sy’n digwydd yw bod un o’r rhain yn cwrdd ag agof danfor, a nerth y môr yn gwthio aer, dŵr, tywod a chreigiau bach o’i flaen a mâs ar ben y clogwyni.

Bwriad y cymdogion wrth gynnal yr ymgyrch yw addysgu pobl i beidio gwneud pethau mor dwp, na chwaith towlu caniau i”r awyr i’w geld yn hefan, achos nôl ar y tir y maen nhw’n glanio. Mae llawer o’r geiriau sy’n disgrifio nodweddion y galchfaen yn dod o’r Slofeneg: dolina, pant yn y graig sydd i lawr fan hyn yn cael ei lenwi â chlai a mwd er mwyn creu dôl. Ond beth am hwn: cenote. Dolina sydd wedi cwympo yw e a mae’r gair yn dod o un o ieithoedd y Maya, yn nhalaith Yucatan Mexico. Yno maen nhw’n gronfeydd o ddŵr glân, ond mae hwn yn llawn o ddŵr y môr:

Does ond gobeithio y byddwn ni’n gallu cael diogelu’r lle ‘ma fel cofeb naturiol er mwyn i bawb gael ei werthfawrogi.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: