Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 4, 2012

Blog Ben Blwydd

Fy mhen blwydd yw hi heddiw, ac yn lle mynd mâs i gael pryd o fwyd da a drud fel arfer, fy newis eleni oedd mynd i’r mynydd. Roedd hynny’n golygu codi’n rhyfeddol o gynnar a gyrru lan i’r llynnoedd, Enol ac Ercina, lle byddai’r daith gerdded yn dechrau. Fe gawsom ni chwe awr o gerdded bendigedig, i ddechrau yn dilyn y llwybr a wnaethom ni ddechrau mis Mawrth pan oedd y lle o dan eira, ac yna’n mynd ymlaen tuag at y Vega de Ario, lle cawsom olygfa o copaon uchel massif canol y Picos de Europa. Dyma lun o Llyn Ercina y bore ma:

Ychydig iawn o eira sydd ar ôl, a dim byd o dan draed. Roedd ein taith yn codi 500m (o 1100m wrth y llyn i 1600m ble buom ni’n bwyta’n brechdanau amser cino.) Y llwybr yn hawdd ei ddilyn a’r tywydd yn berffaith, yn heulog i ddechrau a chymylau’n dod ar draws bob hyn a hyn i dorri’r gwres.

Roedd mwy o bobl nag yr oeddwn i wedi disgwyl yn y maes parcio wrth y llyn, ond dim ond rhyw 4 neu 5 a welsom ni ar ôl gadael y llecyn hwnnw. Dim amser i ragor heno, achos, ie, rydym ni yn mynd mâs i gael bwyd. Tapas a seidr yn Ribadesella amdani. Ond bydd llawer mwy yfory, am y daith, y planhigion a’r anifeiliaid.


Responses

  1. Penblwydd Hapus iawn, weld y le deddfrydol i fwynhau.

  2. Penblwydd hapus Cathi. Y lluniau yn dod ac atgofion hyfryd o’r haf.

  3. Diolch i’r ddau ohonoch chi! Roedd yn ddiwrnod mor hyfryd, rwy’n meddwl y byddaf yn gwneud yr un peth i ddathlu’r un nesaf os bydda’i byw ac iach.

  4. Gobeithio cawsoch chi ben-blwydd hapus. Mae’r llun o’r llyn yn dod ag atgofion melys (ac oer!) nol o pan fues i yno ryw naw mlynedd yn ol. Gobeithio mynd eto dros yr haf os bydd amser.

    • Diwrnod hyfryd diolch. Os wyt ti’n cael cyfle i fynd i’r llynnoedd yn yr haf, cofia bod rhaid parcio yn y gwaelod (neu yn Cangas de Onis) a dal bws. Fel arfer mae’r gwaharddiad ar yrru yn dod i fewn ganol Gorffennaf ac yn aros tan ddechrau Medi. Yr unig ffordd i osgoi hyn yw gyrru lan cyn 0800 y bore.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: