Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 5, 2012

Taith Gerdded Vega de Ario

Mae’r daith hon yn un o’r rhai sy’n dechrau o lynnoedd Enol ac Ercina, yn uchel uwchben tref Cangas de Onis.  Ac mae mis Mehefin yn gyfnod delfrydol i fynd yno, achos mae blodau Alpaidd y gwanwyn yn eu hanterth a’r cyfyngiadau ar yrru lan i’r llynnoedd heb ddechrau eto. O’r maes parcio ar lan Llyn Ercina, y llyn pellaf, rhaid cerdded tuag at ochr chwith y dŵr a dilyn llwybr plaen rownd y gornel. Mae arwydd ar y dechrau yn dweud ‘Vega de Ario 3 awr’ ac mae hynny’n amser rhesymol.

Clychau’r tylwyth teg yw’r rhain, yn syth ar ôl gadael glan y llyn: fe welais i nhw wedyn yng nghanol y calchfaen hefyd. Maen nhw tyfu yn yr ardd hefyd, ar ochr y graig. A dweud y gwir mae llawer iawn o’r blodau sydd i’w gweld yn y Picos de Europa hefyd yn frith yn yr ardd i lawr ar yr arfordir, os weithiau’n hwyrach. Blodyn yr haul, lithodora a fioledau yn hapus yn y ddau le.

Ond planhigion y mynydd yw’r rhain:

Tafod y gors mawr yw’r mwyafrif fan hyn, gyda’u dail melynwyrdd, ac un o deulu’r crwynllys yn eu canol. Gentiana acaulis o ryw fath yw e, ond dydw i ddim yn ddigon wybodus i ddweud ai clusii ai occidentalis sydd yma. Dyw rhain ddim yn tyfu ar lefel yr arfordir ond mae’n werth mynd bob cam lan i’w gweld nhw. Ar y mannau anodd, pan wyt ti’n meddwl y bydd naill ai dy galon neu dy goesau’n peidio, mae gweld boncyn bach fel hwn yn rhoi nerth newydd.

Neu beth am rhain? Crwynllys y gwanwyn y tro yma, yn llai, a’i liw yn tueddu tuag at wyrdd yn lle tuag at porffor.  Byddaf yn dod yn ôl at y daith yma mewn cofnod arall, a sôn am yr anifeiliaid (ac weithiau’r bobl) sy’n hafota yn y Picos.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: