Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 6, 2012

Dyna Beth yw Streic

Heddiw eto bu miloedd o bobl ar streic yma yn Asturias: y glowyr yn ceisio sicrhau parhad eu pyllau yn nannedd diffyg cymorthdal, a gyrwyr bysus a loriau yn ceisio amddiffyn yr amodau gwaith sydd gyda nhw (pethau fel: dal i gael eu talu’n ychwanegol am weithio dros nos e.e. i gael bwyd i’r siopau, ac yn erbyn contract newydd fyddai’n galluogi’r cyflogwyr i ddiswyddo gyrrwr o fewn 18 mis cyntaf ei gontract heb roi reswm.)

Yma, pan fydd pobl ar streic maen nhw’n weladwy ac yn glywadwy iawn. Mae’r glowyr yn gadael eu glofeydd, yn gadael eu cymoedd, er mwyn codi welydd o goed a theiars ar y draffyrdd, cynnau tân, a mynd bant i’r safle nesaf. Heddiw wnaethon nhw gyrraedd ffyrdd llai, ledled Asturias. Maen nhw hefyd wedi sefydlu gwersyll y tu fâs i swyddfa llywodraeth Madrid yn Uvieu/Oviedo, prifddinas Asturias. Mae’r gyrwyr yn picedu’n gryf ac yn niferus: daeth lluniau ar y teledu o dorf yn sefyll o flaen lori oedd yn ceisio gadael stâd ddiwydiannol.

A dyna beth arall: mae’r newyddiaduriaeth yn wahanol yma. Does dim o’r collfarnu a gewch chi yn y DU. Mae’r cyfryngau at ei gilydd yn derbyn hawliau pobl i wrthdyatio ac i amddiffyn eu hamodau gwaith. (Dyddiau ceisio gwella pethau wedi mynd am y tro.) Dim ond pan fydd rhywun neu rywrai yn mynd yn rhy bell, e.e. yn towlu cerrig at ffenest flaen lori, y bydd gohebwyr yn beirniadu’r streicwyr.

Mae’r ‘gwasanaethau isaf’ yn helpu: mae bysus ysgol yn dal i redeg, ynghyd â nifer fach o wasanaethau ar deithiau bws rhwng dinasoedd. Ac mae pethau angenrheidiol fel bwyd a thanwydd ac offer meddygol yn cael eu hepgor.  Nid streic undydd i fynegi barn yw hwn: mae nhw mâs tan byddan nhw wedi ennill – neu wedi colli.

 


Responses

  1. Weles i luniau o’r stric.. waw. Chwara teg


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: