Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 7, 2012

Hafota ar y Mynydd

Rwy’n siŵr y bydd mwy na digon o drin a thrafod economi a banciau Sbaen yn y prif gyfryngau heddiw, felly byddaf yn gadael hwnnw tan yfory neu bryd bynnag byddwn ni’n cael gwybod rhywbeth yn bendant. Rwyf i eisiau mynd yn ôl at y daith gerdded honno i Vega de Ario a wnaethom ni Ddydd Llun.

Roeddwn i wedi gweld erthygl yn y papur yn gresynu bod llai o dda byw nag arfer wedi mynd lan i’r rhan hon o’r Picos de Europa yn ystod wythnos gyntaf y tymor hafota. Mae’r dyddiad yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn yn ôl y tywydd; eleni roedd hi’n eithaf hwyr. Mae ardaloedd o fewn y Picos yn perthyn yn draddodiadol i nifer o bentrefi islaw, ac yn yr hen ddyddiau (nid cyn co’ – 20-30 mlynedd yn ôl) fe fyddai ugeiniau o fugeiliaid yn treulio misoedd yr haf yno yn gwarchod eu gwartheg, geifr neu ddefaid.  Erbyn hyn ychydig iawn sy’n gwneud, a’r rheiny’n hen bobl. Mae gymaint yn haws yn awr i’r gweddill fynd lan yn awr ac yn y man, ond mae yn golygu y bydd y traddodiad o gaws y mynydd, o’r gwartheg sy’n cael eu godro yno’n feunyddiol, yn cael ei golli.

Roedd digonedd o wartheg wedi cyrraedd, gyda lloi eleni: y lloi wrth gwrs erioed wedi gweld y mynydd o’r blaen. Fe glywsom ni sawl un yn llefain yn y diffeithwch ar ei fam. Mae’r gwartheg aeddfed yn dringo i lefydd sy’n edrych yn amhosib er mwyn pori. Ac ar y ffordd yn ôl fe gwrddom ni â’r ddiadell hon yn cyrraedd eu porfa traddodiadol.

Tarw yw hwnnw sy’n cadw cwmni iddyn nhw reit yn y cefn. Ychydig funudau ar ôl hyn daeth bugail arall â dwy hwch, rhywbeth nad wyf i erioed wedi ei weld ar y mynydd o’r blaen. Mae peth o’r traddodiad yn dal yn fyw felly, dim ond ei fod yn newid.

Diweddaru, diwrnod wedyn: bydd yn rhaid imi ail-feddwl y frawddeg ola! Heddiw pan aethom ni i’r farchnad bues i’n siarad â boi yr iard goed, sy’n dipyn o fynyddwr. Fe ddwedodd e wrthyf i ei fod yn hen arfer mynd â moch lan i hafota, ond nad ydyn nhw ddim yn mynd i grwydro felly yn anaml y gwelwch chi nhw. A dydn nhw ddim yn bwyta mes y ffawydd, fel yr oeddwn i wedi hanner tybio, ond y maidd sy’n un o weddillion gwneud caws.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: