Mae cofnod heddiw yn dod gan El Comercio, un o bapurau dyddiol Asturias. Dydw i ddim, a fues i erioed, yn ddringwraig, ac mae’r stori hon yn dangos sut y mae pethau yn gallu mynd o’i le hyd yn oed os wyt ti’n gwybod dy bethe. Diweddglo hapus, gyda llaw.
Lleoliad: y refugio de Urriellu, (2000m) yn y Picos de Europa. A hithau’n nosi, mae dau ddringwr yn cyrraedd ac yn dweud bod dau arall ar goll ar Pico Urriellu, craig sy’n sefyll fel tŵr anferth (500m arall) uwchben y cwt. Dyma warden y cwt yn mynd mâs gyda nhw i waelod ochr ddeheuol y Pico, lle roedd y grŵp wedi bod yn dringo ffordd Nani. Fe lwyddodd e i ddefnyddio fflachlamp a chwiban i gael gwybod lle roedd y ddau.Roedd eu rhaff nhw wedi mynd yn sownd 200m cyn y gwaelod wrth iddyn nhw ddod i lawr. Roedden nhw nawr yn ffaelu symud, yn ôl y papur yn ‘hongian ar y pared’. Y tymheredd yn disgyn a’r gwynt yn rhyw 50-60km yr awr. Ond roedden nhw’n ddi-anaf.
Oherwydd y gwynt roedd yn amhosib dod â hofrennydd tan y bore wedyn. Roedd y pâr, dyn a menyw, yn dal i fod yno. Ac er bod yr hofrennydd wedi dod â’r achubwyr (rhai’n ddynion tân, eraill o dîm lleol) lan i’r cwt, bu’n rhaid iddyn nhw ddringo lan i helpu’r ddau ddringwr. Aethpwyd â nifer o raffau i wneud y gwaith yn haws, ac ar ôl cwpwl o oriau roedd pawb i lawr yn y cwt. Yn oer, wedi blino, ond yn iawn.
Diddorol iawn Cathi. Cofio gweld llawer o ddringwyr yn abselio lawr o wyneb yr Urriellu llynedd. Yn aml iawn nid y dringo sydd yn achosi trafferthion ond dychwelyd yn ol i’r llawr.
By: Arwel on Mehefin 8, 2012
at 6:41 pm
Ie, ac yn ôl fy ymchwil (sydyn iawn) os oedden nhw’n dringo ffordd Nani rhaid bod rhywfaint o brofiad gyda nhw.
By: cathasturias on Mehefin 8, 2012
at 8:03 pm