Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 9, 2012

Arian Mawr

Mae’r diwrnod wedi cyrraedd. Mae gweinidogion cyllid gwledydd yr € yn cwrdd ar y ffôn i drafod anfon arian i achub banciau Sbaen. Mae ambell un yn ôl y sôn yn mynnu amodau llymach fyth ar werin Sbaen gan y llywodraeth yn Madrid. Mae’r prif weinidog Mariano Rajoy yn ceisio hyd y diwedd osgoi defnyddio’r gair ‘achub’. Yn dweud dro ar ôl tro nad Sbaen ofynnodd am y cyfarfod pellenig. Nad yw’r swm o dan sylw, o’i gymharu â beth ddigwyddodd yn Iwerddon, Portugal a Groeg, ond yn 4% o gynnyrch y wlad.

Ond bois bach ŷn ni’n trafod €100bn. €100,000,000,000. Mae’r cylchoedd bach yn dawnsio o flaen fy llygaid wrth eu teipio. Cwestiwn arall yw beth yw’r pwynt? Achub banciau, ie, miloedd o swyddi a chynilion pobl, OK. Ond o weld beth sydd wedi digwydd mewn mannau eraill, fydd y banciau yn gwneud dim ond eistedd ar eu cadeiriau newydd eu hesmwytho gyda’r holl arian, yn gwneud yn siwr na fydd y cyfranddalwyr yn colli mâs – ac yn pallu menthyg dim i bobol sy’n ceisio dechrau busnes fyddai’n cynhyrchu rhywbeth y gallech chi ei gyffwrdd neu’i weld.

Pryder Rajoy, wrth gwrs, yw taw fe fydd ar ei golled.  Dyw prif weinidogion na llywodraethau ddim yn parhau’n hir ar ôl cael eu hachub gan Frwsel, defnyddio’r gair neu beidio. Ac mae barn pobl fan hyn yn mynd yn fwyfwy yn erbyn y cyni. Bydd gyrywr bysus Asturias yn ôl wrth y llyw ddydd Llun ar ôl streicio am wythnos. Mae’r cyflogwyr wedi tynnu’n nôl cynlluniau i dalu llai a gwneud hi’n haws diswyddo.  Mae’r glowyr, yn Asturias a Leon, yn dal ar y stryd, a gweithwyr adeiladu llongau yn Galicia hefyd yn paratoi ymgyrch i amddiffyn eu diwydiant nhw.Dyddiau diddorol, yn wir.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: