Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 10, 2012

Pigion Dydd Sul

Wyt ti’n cofio achos mab-yng-nghyfraith brenin Sbaen sy’n cael ei gyhuddo o dwyll ariannol? Dyw e ddim wedi cael ei anghofio fan hyn, a heddiw bu’n rhaid i’r barnwr ymchwilydd wadu’n blwmp ac yn blaen ei fod yn cynnal trafodaethau gyda dug Palma a’i ‘bobl’ er mwyn llesteirio pethau. Na, meddai, bydd yr achos yn mynd yn ei flaen yn y modd priodol.

Mae prif weinidog Sbaen wrthi’n ceisio gwerthu’r syniad taw ‘benthyciad’ yn unig yw’r holl arian sy’n dod gan Ewrop i goffrau banciau’r wlad, ac nid cwch achub. Mae cyn lleied o ots gyda fe, bydd yno yng Ngwlad Pwyl heno i weld gêm gyntaf Sbaen yng nghystadleuaeth Cwpan Ewrop. Wel sdim eisiau iddo fe golli mâs, nag oes?

Un o’r ffyrdd mwyaf pwysig i gael arian o rannau eraill o Sbaen ac o dramor i fewn i economi Asturiad yw twristiaeth. Rhan bwysig o hwnnw yw’r tai  a fflatiau sydd i’w rhentu yn ystod yr haf. Eleni yn ôl asiantiaeth fwyaf yr ardal hon mae’r busnes i lawr 20%. Efallai y bydd y prisiau’n gostwng hefyd.

Ac nac anghofier etholiadau seneddol Ffrainc: bydd y rownd gyntaf heddiw yn rhoi syniad inni beth mae pobl yno’n meddwl am yr holl syrcas ariannol.

 

Newydd ddod yn ôl o weld y gêm yn y bar. Rwy’n siŵr y bydd llawer o chwarae geiriau ar y ffaith bod Sbaen (wedi ei hachub) a’r Eidal (heb ei hachub hyd yn hyn) wedi cwpla’n gyfartal.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: