Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 11, 2012

Blodau Gardd a Gwyllt

Tywydd od iawn heddiw. Mae wedi bod yn eithaf twym, a bob rhyw hanner awr cawod trwm ac ambell i daran. Mor rheolaidd, mae e fel petawn i o dan cyfundrefn dwrhau byd-eang. Roedd hynny’n golygu nad oedd modd gwneud dim byd mawr yn yr ardd, dim ond rhedeg mâs i chwynnu neu dacluso cornel fach oedd wedi cael ei hanwybyddu’n rhy hir.

Wrth dynnu gwair o’r gwely ar gornel y tŷ, sylwais i fod yr hebe fechan ‘Patricia Davies’ wedi blodeuo o’r diwedd! Mae gyda ni ers saith mlynedd, a dim un flodyn wedi ymddangos tan nawr. A’r ochr arall i’r hebe, syrpreis bach neis arall – ail degeirian y gwenyn, mewn man lle nad yw e ddim wedi dod o’r blaen. Ond does dim llawer ohonyn nhw eleni: mae’r ddau sydd wedi codi’u pennau mewn gwelyau gardd yn hytrach nad yn y gwair lle ‘dylen’ nhw fod – efallai bod y gwair yn rhy gryf iddyn nhw ar ôl yr holl law.

tegeirian coch y gwanwyn

Fe wnaeth hyn atgoffa fi bod un llun ar ôl o daith gerdded Vega de Ario sydd yn werth ei weld. Dyma’r enghraifft mwyaf (talaf) o degeirian coch y gwanwyn imi ei weld erioed – siŵr ei fod yn 45-50cm i gyd. Ar ei ben ei hun gyda’r crwynllys a thu ôl iddyn nhw dail isel yr eryngium glas. Roedd hwn yn tyfu’n agos i’r llyn, tua’r un uchder â chopa’r Wyddfa. Ond fe welsom ni un hefyd 500m yn uwch, yng nghanol palmant calchfaen. Roedd hwnnw’n fyrrach o dipyn.

Oes unrhyw un yn gwybod a yw da byw yn bwyta’r planhigion blodeuol  neu’n canolbwyntio ar y gwair? Sylwi wnaethom ni bod llawer llai o flodau yn y parthau isaf lle roedd y gwartheg yn pori, ond fe all fod sawl rheswm dros hynny.


Responses

  1. Yn fy mhrofiad i mae merlod yn well na gwartheg wrth geisio adfer ardaloedd blodeuog o warchodfeydd natur. Hynny ydi, maen nhw’n dethol y gweiriau a’r deiliach i’w bwyta gan adael y blodau. Oherwydd hyn mae’r blodau yn llwyddo i gynhyrchu hadau ac atgynhyrchu.
    Mae gwartheg ar y llaw arall yn tueddu i sgubo popeth i’w cegau trwy gyrlio’u tafod rownd y tyfiant i gyd. Maen nhw’n osgoi ambell blanhigyn yn gyfangwbl wrth gwrs, ond yn gyffredinol tydi buwch ddim yn gwahaniaethu rhwng gweiryn a blodyn.
    Efallai hefyd fod y tir is wedi cael ei wrteithio, ac felly mae gweiriau yn manteisio ar y nitrogen a chystadlu’n well, a mygu’r blodau gwyllt. Dyma’r hanes cyffredin iawn ar ddolydd Cymru.
    Nid dyna oeddet ti’n holi yn uniongyrchol efallai, ond bosib fod rhywfaint o’r ateb ymysg y mwydro uchod yn rhywle!

    • Diolch am hynny – wyddwn i ddim am ran bwysig merlod wrth adfer tiroedd. Yn yr achos hwn dyw’r tir is ddim yn cael ei wrtheithio (onibai am gan y gwartheg wrth iddyn nhw bori) achos mae’r tir is yn 1100m ac yn borfeydd mynyddig i gyd. Yr unig bethau sy’n wahanol rhwng fan yna a’r mannau uwch yw bod mwy o drwch o bridd i lawr wrth y llynnoedd, a bod mwy o bobl yn cerdded o gwmpas.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: