Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 12, 2012

Ble Mae’r Arian?

Felly mae’r holl arian yna – €100bn – wedi ei neilltuo ar gyfeer banciau Sbaen, a sdim byd wedi gwella. Mae’r cyfradd llog y mae llywodraeth Sbaen yn gorfod talu am fenthyg arian ar y farchnad wedi cyrraedd uchafswm na welwyd ers dechrau’r arian unigol dros 10 mlynedd yn ôl.

Ac ar wahan i gipolwg ohono yn gwylio’r gêm ddydd Sul, does neb wedi clywed siw na miw gan y prif weinidog. Mae’n debyg nad oes rhaid iddo ymddangos o flaen y Cortes – senedd Sbaen – tan ar ôl cyfarfod nesaf arweinwyr Ewrop ddiwedd y mis.

Fel wedais i o’r blaen, dyw hi ddim yn edrych yn debyg y bydd yr arian yn helpu’r economi ar y stryd beth bynnag. Gellir disgwyl y bydd diweithdra’n edrych ychydig yn well dros yr haf oherwydd swyddi o fewn y diwydiant ymwelwyr, ond dyfodol eu plant sy’n becso’n cyfeillion ni.

Buom ni mewn parti’r noson o’r blaen ac roedd pawb oedd yno’n poeni, naill ai na fyddai’r plant yn gwneud yn ddigon da i gyrraedd prifysgol, neu na fydden nhw ddim yn gallu fforddio talu’r ffordd  iddyn nhw, neu na fyddai dim swyddi ar gael wedyn ta beth.

Yn lle gwella hynny mae’r crachach yn rhoi amser i weddill y crachach gael eu harian mâs o fanciau Sbaen a phrynu fflatiau drud yn Llundain: mae eu byd nhw’n wahanol iawn, ond dyw e?


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: