Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 13, 2012

Colli Hen Goeden

Diwrnod trist yw torri coeden, coeden aeddfed (coeden cnau Ffrengig yn yr achos yma) sydd wedi sefyll yn erbyn hanner canrif o stormydd yr Iwerydd. Ond roedd hon yn gwyro mâs dros yr heol mewn ffordd oedd yn awgrymu ei bod hi ar fin plymio yno’n gyfangwbl. Daeth bachan o’r pentref nesaf i’w thorri inni, a rhyw hanner awr fuoedd e i gyd.

Roeddem ni eisoes wedi plannu’r un fach fydd yn cymryd ei lle, ond mae’r coed hyn yn araf iawn yn dod i’w llawn dŵf. Wedi torri’r boncyff, roeddem ni’n gallu gweld gymaint o ddifrod oedd y tu fewn – a beth oedd wedi gwneud peth ohono fe:

Rwyf i wedi gadael y llun yn eithaf llydan er mwyn y bobl sy’n casau’r pethau ymlusgol: mae arna’i ofn taw larfa’r chwilen gorniog yw e. Dydyn nhw ddim yn brin brin fan hyn, fe  welwch chi nhw bob blwyddyn, ond dydyn nhw ddim yn gyffredin chwaith. Maen nhw’n bwyta pren sy’n pydru, ond buaswn i ddim yn meddwl taw nhw oedd yn gyfrifol am yr haint gyntaf. Efallai y dylwn ni ddodi’r darnau pwdr mewn man diarffordd a’u gadael nhw i fod.

A dyma’r pren oedd heb gael ei effeithio gymaint, yn barod at y gaeaf. Fydd ddim rhaid inni boeni am brynu coed tân am sbel eto.

 


Responses

  1. Druan o’r hen goeden!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: