Paid â becso: nid yw’r teitl yn golygu fy mod i wedi penderfynu gwneud arian drwy ddodi hysbysebion ar y blog.
Hanes trafferth a gefais i’r diwrnod o’r blaen yw e, a fydd efallai o ddiddordeb i unrhyw un sy’n blogio ar WordPress ac sydd hefyd yn ceisio osgoi gweld gormod o hysbysebion ar wefannau eraill. Pan es i’r dudalen lle bydda’i’n paratoi cofnod newydd, roeddwn yn methu teipio dim byd, nac ychwanegu lluniau, na thagiau. Ar ôl gwneud y pethau arferol (clirio hen bethau, diffodd ac ailddechrau) ac ysgrifennu nodyn ar fforwm WordPress yn gofyn a oedd unrhyw un arall wedi cael yr un profiad, es i ati i geisio gweld a oedd unrhyw beth arall yr oeddwn yn ei ddefnyddio yn achosi’r broblem.
A’r ateb oedd Adblock. Ymhen dim fe gefais i’r un wybodaeth gan fforwm WordPress hefyd, felly mae angen diolch iddyn nhw. Roedd yn ddigon hawdd ddod dros y peth; mae gan Adblock eicon bach ar waelod y sgrîn, a saeth wrth ei ochr. O glicio ar y saeth fe agorodd popeth fel y dylai fe.
Ond o chwilio heddiw i weld a oedd yna unrhyw drafodaeth gyffredinol wedi bod, des i ar draws nifer o gyfeiriadau gan flogwyr WordPress sydd yn cynnwys hysbysebion. Roedden nhw’n canu clod rhaglen arall sydd yn bloco Adblock, fel bod darllenwyr eu blogiau’n gorfod gweld yr hysbysebion. Carfan arall yn pwyntio mâs ein bod ni’n cael defnyddio WordPress am ddim, ac yn synnu bod pobl yn ceisio gwneud elw mâs ohono.
Bydd y blog hwn yn aros heb hys-bys.
Hir oes i’r blog ddi hys-bys!
By: Wilias on Mehefin 14, 2012
at 8:55 pm
Gwych Cathi.wedi lawrlwytho Adblock!
By: Dai Thomas on Mehefin 14, 2012
at 9:09 pm
Felly meddalwedd ar wahan (fel bod ti’n rheoli beth sydd yn a ddim yn ymddangos ar dy borwrw gwe) yw Adblock, ac ofod a hwn yn weithredol, doeddet ti didm yn gallu golygu cofnod ar WordPress.com?
Os felly, dw i ddim yn dallt:
.. rall sydd yn bloco Adblock, fel bod darllenwyr eu blogiau’n gorfod gweld yr hysbysebion.
Dw i heb ddod ar draws hybysebion ar WordPress.com, a cefais i bach o sioc o ddarllen y cofnod yma yn son am brofiadau un boi o hysbysebion anaddas (h.y sbamllyd a dichwaeth, nid porngraffig) yn ymddangos are ei flog WordPress.com o.
Tan darllen hynny, don i ddim yn ymwybodol bod hysbysebion yn gallu ymddnagos ar flogiau WordPress.com. Ond dyna fo, sdim byd am ddim yn y byd yma. Y dewis arall ydy bod chi’n cynnal y blog eich hunain, neu mynd i rhywbeth fel Blogger (sy’n salach yn fy marn i) a sy’n berch in i Goolge, felly Duw a wyr pa fatho bwybodaeth maen nhw’n gasglu!.
By: Rhys Wynne on Mehefin 15, 2012
at 11:25 am
Mae dwy edafen i’r stori: yn gyntaf roedd rhywbeth yn Adblock (rhyw newid efallai, gymaint oedd y cwyno ar Twitter mewn sawl iaith) yn golygu nad oeddwn i ddim yn gallu ysgrifennu cofnod na golygu hen rai. O newid y saeth ar bwys eicon Adblock fe gywirais i fe ar gyfer fy nhudalenni golygu fi. Ond wedyn ffindes i bod blogwyr eraill ar WordPress yn rhoi atodiad oedd yn cadw defnyddwyr Adblock mâs o’u blogiau nhw – a blogwyr oedd yn cynnwys hysbysebion oedd y rheiny. Nawr mae WordPress wedi cyhoeddi eu hatodiad tebyg eu hunain : http://wordpress.org/extend/plugins/anti-adblock/
felly mae’n amlwg eu bod nhw’n cefnogi’r hysbysebwyr.
By: cathasturias on Mehefin 15, 2012
at 1:49 pm