Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 15, 2012

Yr Oriel Gyntaf?

Lluniau ogofau gogledd Sbaen yw’r hynaf yn Ewrop. Dyna gasgliad tîm o ymchwilwyr sydd wedi bod yn gweithio mewn rhai o’r ogofau hyn ers pedair blynedd, ac mae’n golygu eu bod nhw’n hŷn na chelfyddyd Ffrainc a Phortiwgal, oedd ar ben y rhestr cyn heddiw.

Dydyn nhw ddim yn sôn am gelfwaith cywrain iawn, ond am sumbolau sydd wedi cael eu peintio er mwyn mynegi rhywbeth i bobl eraill. Mewn un achos, yn ogof El Castillo yn Cantábria, siâp crwn mawr coch yw e, a wnaed 40,000 o flynyddoedd yn ôl, ac mewn ogof arall yn yr un dalaith, siâp llaw wedi ei gwasgu ar y wal (37,000 oed).

Ond yr un sy’n debycach o lawer i lun y byddem ni’n gyfarwydd ag ef yw’r un yn ogof Tito Bustillo, yma yn Ribadesella. Mae e mewn rhan o’r ogof a ddarganfuwyd dim ond ddeuddeng mlynedd yn ôl. Dyw e ddim yn rhan o’r ymweliadau cyhoeddus am fod y porth mor gul, ond mae’n llawn o ffigyrau ‘dynol-anifeilaidd’. Ac yn awr cawsom wybod bod un, o leiaf, o ddarluniau la Galería de los Antropomorfos, wedi ei greu rhwng 35,000 a 29,000 o flynyddoedd yn ôl. Bydd y ddolen yn mynd â ti i dudalen swyddogol ogof Tito Bustillo gyda lluniau o’r galería: yr un hynaf oll yw’r un uchaf ar y dde. Maen nhw wedi eu peintio, neu’u crafu, ar ffurf arbennig o’r calchfaen – efallai bod siapau rhyfedd hwnnw wedi ysbrydoli’r artist(iaid) i ddefnyddio’r lle hwn.

Yn amlwg dydw i erioed wedi eu gweld nhw, nac yn debyg o wneud, ond maen nhw’n cydio ynof rywsut.  Gwaith y cyndadau – neu ydyn nhw? Mae palaeontoegwyr yn credu nad homo sapiens yn unig oedd yn byw yng ngogledd Sbaen ar y pryd: roedd y bobl Neanderthal yma hefyd. Tybed a oedden nhw’n fwy creadigol nag oedd neb yn meddwl?


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: