Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 16, 2012

Arian v Amgylchedd

Dro ar ôl tro mae’r byd busnes – a’r angen i bobl gael gwaith er mwyn ennill arian i fyw – yn dod wyneb yn wyneb ag anghenion yr amgylchedd. Ac yn aml iawn, byd busnes sy’n ennill. Ond mae llywodraeth Mecsico newydd gyhoeddi eu bod nhw wedi gwrthod cynllun i godi, wel, tref newydd o dai gwyliau a gwestyau, yn un o ardaloedd prin arfordir y wlad sydd heb eu datblygu eisoes.

Yng ngorllewin Mecsico, ar lan y Môr Tawel, mae Cabo Cortes. Does dim byd yno, na neb ond ychydig o bentrefi o bysgotwyr ar hyd penrhyn Baja California. Imi mae’n lle pwysig; nid fy mod i wedi bod yno yn gorfforol, ond dyma leoliad un o’m hoff lyfrau, Log of the Sea of Cortes gan yr Americanwr John Steinbeck. Hanes taith mewn cwch pysgota, gyda grwp bach o gyfeillion, yn casglu creaduriaid môr bychain ac yn darganfod ffyrdd o fyw hollol wahanol i dalaith California yr UDA.

Mae’r newyddion hefyd yn ddiddorol oherwydd pwy yw – neu oedd – y datblygwyr. Banc Sbeinig gafodd ei wladoli’r llynedd yw CAM, un o’r rhai oedd wedi menthyg arian i lawer gormod o ddatblygwyr gyda syniadau pell-gyrhaeddol. Yn ôl y cyfryngau, roedd y banc wedi maddau dyled y cwmni Hansa, perchnogion y tir yn Cabo Cortes, a derbyn cyfranddaliadau yn Hansa am hynny. Mae’r banc a’r cwmni yn dal i ddweud y byddan nhw’n gallu dod i gytundeb ar ddatblygiad llai, ond mae arweinwyr Mecsico wedi siarad yn blaen iawn: ni fydd datblygiad yn Cabo Cortes.

Byddaf i a John Steinbeck yn agor cwrw bach i ddathlu’r penderfyniad.

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: