Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 18, 2012

Anifeiliaid Gwyllt a Gwaith

Mae lle i gredu bod Villarina, yr arthes a gafwyd wedi ei niweidio 4 blynedd yn ôl, wedi geni cenawon. Dim ond rhai misoedd oed pan ddaeth pâr o ymwelwyr ar ei thraws hi, yn unig ar oche llwybr mynyddig yng ngorllewin Asturias. Fe aeth hi nôl i’w chynefin ar ôl cael triniaeth a dywed y naturiaethwyr sy’n cadw golwg (pell) arni ei bod wedi gwneud hynny’n hollol naturiol. Ond does neb wedi ei gweld eleni, ac mae’n tynnu at ddiwedd mis Mehefin. Mae hi nawr yn oed cenhedlu, ac mae tystiolaeth bod nifer o eirth gwryw wedi ymweld â’i hardal y llynedd. Y gobaith yw y bydd yn ymddangos yn fuan gyda chenau neu genawon.

Newyddion da i’r lyncs (methu dod o hyd i enw Cymraeg arall) Iberaidd. Mae camerau nos wedi tynnu llun un anifail yn nhalaith Extremadura yng ngorllewin-canol Sbaen, ynghyd â thystiolaeth o fodolaeth eraill yno. Mae olion hefyd wedi eu rhestru yn nhaleithiau Madrid a Salamanca. Yr unig boblogaeth sefydlog yw honno ym mharc y Doñana yn y de.

Mae’r gwaith adfer llwybr Cares yn y Picos de Europa yn parhau gyda chymorth tîm o fulod. Daeth rhan yr hofrennydd yn cludo offer a deunydd mawr i ben: y mulod sy’n cario popeth nawr ac mae’r awdurdodau yn ffyddiog y bydd y llwybr ar agor eto erbyn dechrau mis Gorffennaf.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: