Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 19, 2012

O’r Gegin: Orennau

Yr wythnos hon rwyf i wedi casglu’r orennau olaf, y rhai oedd yn cwato yng nghanol y goeden ac wedi aros yn hynod suddlon. Mae ffrwythau bach y flwyddyn i ddod i’w gweld yn barod, ochr yn ochr â’r blodau gwyn persawrus hyfryd. O hyn ymlaen bydd rhaid imi brynu orennau yn y farchnad er mwyn gwneud sudd.

Anodd iawn yw cael orennau organig fan hyn, ac er mwyn defnyddio’r croen mewn teisen mae gofyn iddo fod yn lân a heb ei chwistrellu â chemegau lladd pryfed. Iawn yn ystod tymor yr oren, mae digonedd i gael ar ein coed ni. Ond beth am weddill y flwyddyn? Penderfynais i arbrofi gyda sychu peth o’r croen.

croen oren yn sychu ffoto:cathasturias

Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai’r stwnsh sy’n dod mâs o ratur caws yn sychu’n dda, felly wnes i ddefnyddio zester sy’n rhoi stribedi main iawn. Rwyf i wedi eu taenu’n denau ar bapur pobi, a’u gadael nhw yn uchel yn y gegin gyda’r perlysiau sy’n sychu yno. Does dim syniad gyda fi faint o amser fydd eisiau i’w sychu nhw’n iawn, felly dôf yn ôl at y pwnc yma.

Ers gwneud hynny, rwyf i wedi darllen bod pobl Provence yn ne Ffrainc yn sychu croen oren mewn darnau mwy o lawer – tua’r maint y byddet ti’n cael o dynnu croen taten – ar gyfer eu daubes, y cymysgedd blasus hwnnw o gig, olew, sbeis a thomato. Byddaf yn gwneud hynny hefyd flwyddyn nesaf.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: