Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 20, 2012

Dyddiad Achos y Prestige

O’r diwedd. Mae cyfundrefn y gyfraith yn Galicia wedi cyhoeddi diwrnod agor achos y Prestige, a faint o amser mae’n debyg o barhau. Suddodd y llong olew Prestige ym mis Tachwedd 2002, pan oeddem ni newydd brynu’r tŷ yma. Rhaid mynd yn ôl tair llywodraeth, achos Aznar a’r PP oedd wrth y llyw yn Madrid bryd hynny. Ac yn awr o’r diwedd ym mis Hydref 2012 bydd llys barn yn penderfynu pwy oedd yn gyfrifol am golli’r llong a llygru 2000km o arfordir gogledd Sbaen a gorllewin Ffrainc.

Pedwar dyn fydd yn sefyll eu prawf: tri o uchel swyddogion y llong, gan gynnwys y capten Apostolos Mangouras, a’r dyn oedd ar y pryd yn bennaeth ar y Marina Mercante, adran o wasanaeth suful Sbaen sy’n gyfrifol am ddiogelwch morwyr, llongau – a’r amgylchedd.

Ond yr hyn sy’n fwy diddorol yw’r cwestiynau y tu ôl i’r llongddrylliad. Roedd capten y Prestige wedi bod yn dweud ers wythnos a mwy ei fod mewn trafferthion, a dim un porthladd wedi agor iddo. Pam nad oedd neb yn ei gymryd o ddifri? Dywedir bod nifer o uchel wleidyddion Galicia a Sbaen wrthi’n hela anifeiliaid pan oedd yr argyfwng yn tynnu tua’i derfyn erchyll, yn lle bod wrth y llyw. Ble oedd (y diweddar) Manuel Fraga, llywydd Galicia? Ble oedd Francisco Alvarez Cascos, oedd bryd hynny’n weinidog datblygu, gyda chyfrifoldeb dros bethau morol? (Ie, yr un Cascos a ddaeth yn llywydd Asturias wedyn). Pam nad oedden nhw’n cymryd y peth o ddifri?

A hyn i gyd heb sôn am adeiladwaith y llong. Corff o haenen unigol oedd ganddi, oedd yn golgyu bod yr olew wedi llifo mâs yn rhwydd, er ei fod yn olew trwchus trwm.  Mae saith mis o amserlen i’r achos, felly gobeithio y byddwn yn cael atebion i rai o’r cwestiynau yma.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: