Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 22, 2012

Yr Orymdaith Ddu

Heno mae 80 o lowyr o Asturias ar eu ffordd i ymuno â’u cymrodyr o gymoedd glofaol eraill gogledd Sbaen. Byddan nhw’n cyd-gerdded yr holl ffordd i Madrid i geisio achub eu gwaith a’u trefi. Fe adawodd yr orymdaith Mieres, tref fwyaf y Cuencas (cymoedd) y bore ‘ma ar ôl cyfarfod awyr agored o filoedd o bobl leol a chanu emyn y glowyr i’w santes, Barbara.

Ymhen tridiau fe fyddan nhw wedi croesi’r mynyddoedd drwy fwlch Pajares (1378m), yn dilyn yr hen briffordd a’r rheilffordd sy’n uno Asturias a’r meseta  (canolbarth uchel Sbaen). Yna, wedi ymuno â glowyr gogledd-orllewin Leon, ymlaen bo’r nod.

Gad imi sôn tipyn bach am drefi’r glowyr. Trefi a phentrefi, h.y., miloedd yn byw mewn rhai ac ychydig cannoedd yn y rhai lleiaf. Llefydd sydd yn bodoli o achos y glo, pan symudodd plant cefn gwlad Asturias ac ardaloedd tlawd ledled Sbaen i chwilio am waith, am arian, am fywyd gwell. Doedd dim cynllunio trefol bryd hynny (ddiwedd C19eg, ddechrau 20fed). Ond erbyn hyn mae ysgolion ac ysbytai a theatrau a’r holl bethau fyddai rhywun yn ei ddisgwyl.

Mae trigolion y trefi wedi cadw eitha cysylltiad â’r bywyd gwledig, yn tyfu llysiau, casglu ffrwythau a chnau yn eu tymor – hyd yn oed yn cadw gwenyn ar lethrau’r mynyddoedd. Ond mae eraill, ers i’r diwydiant glo ddechrau cael gwared ar weithwyr 30 mlynedd yn ôl, wedi cwympo i bydew cyffuriau a throseddu. Achos does dim gwaith arall i gael yma. Fel yng Nghymru, mae ymdrechion wedi bod i sefydlu diwydiannau newydd, ond digon pitw fu’r canlyniadau hyd yn hyn. Yr unig ddiwydiant newydd sy’n gwneud yn dda yw cynhyrchu offer ar gyfer trydan cynaliadwy, ac mae’n well gan y cwmniau hynny safleoedd gwastad, nid cymoedd culion.

Bydd taith y glowyr – la Marcha Negra, yr orymdaith ddu – yn cyrraedd Madrid ar yr 11eg o fis Gorffennaf. Faint o lwyddiant gân nhw sy’n gwestiwn mawr. Eisoes mae’r llywodraeth wedi dweud eu bod nhw’n ‘barod i drafod – ond nid i adfer yr un € o’r toriadau sydd wedi eu cyhoeddi’. Ydy, mae’n disgwyl yn ddu.

 

Advertisements

Responses

  1. Chydig iawn rwyt yn glywed am hyn yn y wasg Brydeinig, roedd na llythyr yn y Guardian gan yr NUM am yr anghydfod ond ddim wedi dod ar draws ddim byd arall. Wrth gwrs mae na lot a wybodaeth am y banciau!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: