Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 23, 2012

Pwy Bia’r Tir?

Mae gwledydd De’r Amerig wedi cael digon o sylw ar draws y byd dros yr wythnos ddiwethaf, ond yn bennaf am fod cyfarfodydd rhyngwladol (G20, Rio) yn digwydd yno.

Heddiw fe dorrodd stori sy’n dangos peth o’r hyn sy’n mynd ymlaen mewn rhai llefydd o ddydd i ddydd. Mae arlywydd Paraguay wedi cael ei ddiorseddu gan ei ddirprwy. Wel, gan bleidlais yn uwch-siambr y senedd, sydd wedi ei ddanfon ei sefyll ei brawf am y ffordd y mae’r gwrthdaro ynglŷn â hawliau tir wedi ei drin. Ond y dirprwy sydd wedi cymryd y gadair.

Gwlad gymharol fach yng nghanol De’r Amerig yw Paraguay, i’r gogledd o’r Ariannin a’r de o Brasil a Bolivia. O 1954 hyd at 1989 roedd ei llywodraeth yn unbeniaeth adain-dde o dan Alfredo Stroessner a’i blaid Colorado, a dim ond yn 2008 yr etholwyd yr arlywydd sydd mewn trafferthion heddiw, Fernando Lugo, cyn-esgob ac adain-chwith. Mae ef wedi ceisio gwella sefyllfa bobl dlawd cefn gwlad, ond roedd hynny’n golygu cythruddo’r cyfoethocion: yn ôl Wikipedia, 10% o boblogaeth Paraguay bia dwy dreian o’r tir, ac mae treian o bobl yr ardaloedd gwledig heb dir o gwbl.

Yn yr achos diweddaraf, bu farw 17 o bobl mewn sgarmes â gynnau rhwng 150 o’r campesinos, neu carperos (‘y rhai sy’n byw mewn pebyll’) a’r heddlu. Roedd y grŵp wedi meddiannu ystâd fawr ar ororau Brasil sy’n eiddo i wleidydd o’r blaid Colorado. Ac mae’r dirprwy a ddaeth yn arlywydd, Federico Franco, yn dod o adain dde y ‘Rhyddfrydwyr’ sydd tan heddiw wedi bod yn cefnogi Lugo a’r chwith.

Sdim rhyfedd bod arweinwyr adain chwith eraill – a rhai ddim cweit mor chwith – y cyfandir wedi cyhoeddi’n chwim na fydden nhw’n cydnabod y llywodraeth newydd – Bolivia, Ecuador, Venezuela, Brasil, yr Ariannin, i gyd yn dweud nad oedd y weithred ddim yn gyfreithlon, ei bod yn coup d’etat.

A’r carperos? Mae cannoedd ohonyn nhw eisoes wedi cyrraedd Asuncion, prifddinas Paraguay, ac wrth weld lluniau o’r niferoedd o heddlu sydd yno, mae’r awdurdodau’n disgwyl llawer mwy.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: