Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 25, 2012

Eisiau Benthyg Ceiniog…neu Ddwy

Mae’n amlwg nawr, ond yw e? Mae’r llywodraeth adain-dde yn Madrid, fel ei chymar yn Llundain, yn defnyddio’r cyfnod o argyfwng economaidd i fynd â ni yn ôl. Ond nid i ail hanner y ganrif ddiwethaf, pan oedd gwir obaith yng nghalonnau pobl Ewrop y byddai pethau’n gwella yn economaidd ac yn gymdeithasol. Na,  i’r cyfnod cyn hynny, pan oedd ceunant amhosib ei groesi rhwng y cyfoethog a’r gweddill ohonom ni.

Heddiw mae Mariano Rajoy wedi gorfod gwneud yr hyn y mae wedi bod yn osgoi cyhyd a gofyn am gymorth gan Ewrop – €100,000 miliwn. Mae ef a’i debyg yn dal i wadu taw achub yw hyn, o na, ‘benthyciad i fanciau Sbaen, dros dymor hir ac ar delerau da’ – rhywbeth fel morgais, yfe? Ond mae Is-lywydd Comisiwn Ewrop, Olli Rehn, wedi goleuo’r rhith o eiriau drwy ddweud yn blwmp ac yn blaen nad yw’r Comisiwn yn gallu defnyddio cronfeydd arian y Gymuned Ewropeaidd i achub banciau! Fe fydd yr arian yn dod drwy’r llywodraeth, ac fe fydd yn cael ei gyfrif fel rhan o ddyledion cyhoeddus Sbaen.

Ymateb Mariano? Addo mwy o fesurau ariannol ‘anodd’ cyn diwedd y flwyddyn, ond yn gwrthod rhoi manylion. Eto, yn methu gweld ymhellach na’r llyfr cownt. Does dim mewnlifiant o fuddsoddiadau i Sbaen. (Dim Tseina, hyd yn oed – rhaid eu bod nhw’n aros i’r pris i ostwng.) Dim ond y llywodraeth, gyda neu heb arian Ewrop, all dalu am y gwelliannau sylfaenol mewn telegyfathrebu a thrafnidiaeth sydd eu hangen, neu hybu’r diwydiannau newydd: byddai’r pethau hynny i gyd yn rhoi gwaith i bobl, ac wedyn efallai y byddai arian yn dechrau chwyrlio rownd economi Sbaen eto.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: