Mae’r iaith Catalan yn ôl ar frig y newyddion, ar ôl penderfyniad gan Lys Goruchaf Sbaen. Yn ôl ym mis Mawrth eleni, fe gadarnhaodd Llys Goruchaf Catalunya bolisi iaith addysg y Gymuned. Hynny yw, bod Catalaneg yn iaith gyfrwng ym mhob ysgol, i bob plentyn, ym mhob pwnc.
Mae tri theulu wedi bod yn herio’r polisi drwy’r llysoedd, yn hawlio addysg drwy’r Sbaeneg ar gyfer eu plant. Dyma’r diwedd, y llys goruchaf un. Ac mae dyfarniad y llys heddiw yn golygu y bydd rhaid iddyn nhw dderbyn hynny, gan fod pob cymal yn ymwneud â’r Catalaneg fel iaith gyfrwng wedi ei ddileu, ynghyd â’r cymalau am ddysgu Catalaneg i blant sy’n mewnfudo drwy addysg drochi.
Dadl llywodraeth Catalunya oedd bod pob prawf yn dangos bod pobl ifainc yn gadael eu hysgolion yn medru’r Catalaneg a’r Sbaeneg, ac na fyddai hyn ddim yn digwydd petai rhai plant yn dewis addysg drwy gyfrwng y Sbaeneg a dysgu Catalaneg fel ail iaith.
Hyd yn hyn dyw’r Generalitat (llywodraeth Catalunya) ddim wedi ymateb i benderfyniad y llys, ond chân nhw fawr o gefnogaeth gan lywodraeth Sbaen: mae’r PP, sydd mewn grym, wedi gwrthwynebu’r polisi erioed. Yr hyn sydd yn sicr, o ddarllen sylwadau o Catalunya a’r tu fâs, yw bod hyn yn rhywbeth i ail-danio’r ffrae ynglŷn â phwerau’r Generalitat a’r posibilrwydd y byddai Catalunya yn ddod yn wladwriaeth annibynnol.
Diolch Cath.
O ran ymateb sefydliadol y Govern, i mi, problem Convergenci o fewn ffederasiwn y CiU yw Unio! Clywais Lleida i Duran ar RNE neithiwr a doedd hwnnw ddim eisiau gwneud datganiad yn erbyn penderfyniad y Goruchaf Lys. Ond gan fod Convergenci bellach wedi nodi annibyniaeth yn bolisi swyddogol, y cwestiwn yw i ba raddau bydd Unio yn ymateb yn ystod y blynyddoedd i ddod i agenda adfachu pwerau ac adlunio symbolau cenedlaethol y PP/PSOE. Dengys Germa Bel yn ‘Espanya, Capital Paris’ yn glir iawn mai hiatus yn y gwaith o droi Madrid yn brifddinas economaidd yn ogystal ag un weinyddol a gwleidyddol yw/fu Sbaen y Cymunedau Ymreolus.
Falle bydd datblygiadau economaidd, cymdeithasol a chyfreithiol yn Sbaen ochr yn ochr a datblygiadau mewn gwledydd eraill yn yr UE yn ysgogi newidiadau enfawr y tu fewn i CiU … a Chatalwnia.
By: Patxi on Mehefin 27, 2012
at 8:49 am
Dyw’r math yma o newyddion ddim yn cael ei briod le yn y cyfryngau yn y DU, rwy’n gwybod. Ond yng Nghymru? Ffaelais i weld dim byd ar dudalennau Golwg, e.e., lle byddai rhywun yn meddwl yn gallen nhw greu agenda mwy Cymreig/Cymraeg wrth gynnwys pethau fel hyn.
By: cathasturias on Mehefin 27, 2012
at 11:26 am
Cath, dyw system gyfryngol Gymreig ddim yn bodoli fel y cyfryw, ac o’r herwydd, fydd materion Cymreig ddim yn destun sylw teilwng heb son am faterion mewn gwledydd eraill, yn syml gan nad yw’r cyfryngau yn Gymreig-ganolog.Gwacter affwysol yw hyn wrth reswm sy’n tagu/mogi cymdeithas sifil Gymreig.
O ran y drafodaeth gynharach yn eich blog, hwyrach bydd gennych chi ddiddordeb yn hwn: http://www.ara.cat/politica/CEO-constata-primera-pregunta-destat_0_726527441.html
By: Patxi on Mehefin 27, 2012
at 10:58 pm