Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 29, 2012

Colli Cartref: Hanes un Teulu

Ymfudo wnaeth Jorge Cordero o Ecuador dros ddeng mlynedd yn ôl. Gyrrwr lori wrth ei alwedigaeth, yn chwilio am fywyd gwell yn Asturias. Ac fe wnaeth yn dda. Daeth ei gariad draw hefyd, a bu Jorge a Patricia yn gweithio yn Oviedo yn ystod y blynyddoedd da. Roedd Jorge, gyda’i lori ei hun, yn hunan-gyflogedig ar gontractau i gwmniau mawr.

Yn 2004 fe brynon nhw fflat yn Oviedo, a gwneud eu cartref yno. Ond pan ddaeth 2008 a’r argyfwng economaidd, fe beidiodd y cwmniau mawr â thalu Jorge am ei waith. Yn ôl hanes yn un o bapurau Ecuador heddiw, mae dau o’r cwmniau hynny wedi mynd i’r wal. Pan gollodd Patricia hithau ei gwaith, a beichiogi, doedd dim gobaith talu’r morgais. Yn gynharach yr wythnos hon, fe’u taflwyd ar y stryd er gwaethaf ymdrechion eu cymdogion a gweithredwyr o’r mudiad 15-M (yr indignados). Roedd llawer un wedi eu cythruddo gan ymddygiad yr heddlu yn ystod y brotest, un o leiaf wedi tynnu’i wn a nifer wedi bwrw protestwyr. Cafodd 20 o bobl eu harestio.

Cajastur, hen fanc cynilion Asturias sydd yn awr yn rhan o fanc preifat llawer mwy, sy’n dal y morgais. Yn ôl Jorge, maen nhw’n mynd i’w roi ar ocsiwn gan ddisgwyl €50,000 amdano. Ac maen nhw wedi dweud wrtho fe a Patricia bod arnyn nhw ddwywaith gymaint â hynny – €108,000 – i’r banc hyd yn oed os bydd yr ocsiwn yn llwyddiant. Mae’r peth yn warth.

Dyna yw barn yr undebau o fewn y banc hefyd, sydd wedi galw ar eu cyflogwyr i ddileu’r ail-feddiannu fel mater o gyfiawnder. A’r glowyr sydd ar streic o hyd amhendant erbyn hyn: y bore ma fe orymdeithiodd llu ohonyn nhw heibio pencadlys Cajastur lle mae Jorge ar streic newyn, a chyfrannu arian i helpu’r teulu. (Y prynhawn yma maen nhw’n mynd i’r traeth. Na nid i dorheulo, ond i glirio olew sydd wedi dianc o orsaf bŵer a llygru nifer o draethau’r gorllewin.)

Fydd penderfyniadau Brwsel yn golygu dim i Jorge a Patricia.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: