Popeth yn iawn felly: gwledydd y de, Sbaen a’r Eidal, wedi ymuno gydag arweinydd newydd Ffrainc ac wedi llwyddo i droi Frau Nein yn Ange-ja. Mae si ar led bod Mario Monti wedi bygwth ymddiswyddo yn ystod yr oriau hir o drafod. Yn achos uniongyrchol Sbaen, byddai arian yr achub yn dod yn syth i’r banciau heb gynyddu dyledion y wladwriaeth.
Dim cweit. Drannoeth y ffair, a’r arbenigwyr wedi cael cyfle i ddarllen yn fanwl yr hyn a gytunwyd ym Mrwsel, maen nhw’n amlygu’r diffygion. Cyhyd â bo Sbaen yn y cwestiwn, mater o amser yw’r peth pwysig. Mae llywodraeth Rajoy eisoes wedi gofyn, ac wedi cael yn addewid, swm sylweddol i gadw banciau Sbaen ar eu traed. O dan y gyfundrefn bresennol. A does neb i weld yn rhy siŵr pryd fydd y sustem newydd ar waith. Mae’n edrych yn debyg heddiw y bydd Sbaen yn dioddef yr effaith o gynyddu ei dyledion, fydd yn ei dro yn golygu bod buddsoddwyr tramor yn mynnu llôg uwch am fenthyg i Madrid.
Pam yr oedi? Achos bod yr Almaen wedi glynu at hyn: ni fydd y gyfundrefn ‘achub’ newydd yn dod i fewn nes bod cymal arall yng nghytundeb Brwsel wedi ei weithredu. Rhaid sefydlu’r adran oruchwylio gyffredin (fydd yn rhan o Fanc Canolog Ewrop), ac mae hynny’n mynd i gymryd o leiaf 6 mis. Mae’n bosib iawn taw Iwerddon, fydd yn gorfod ail-drafod ei benthyciad hi yn y flwyddyn newydd, fydd y gyntaf i dderbyn arian yn syth i’r banciau.
Mae nifer o awdurdodau lleol yn Gogledd Cymru a’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi tynnu ei harian allan o Santander UK oherwydd y risg.
By: Plaid Gwersyllt on Mehefin 30, 2012
at 2:13 pm
Enghraifft arall o’r ‘doom spiral’ : colledion y banciau>arian yn cael ei symud>mwy o golledion
By: cathasturias on Mehefin 30, 2012
at 2:44 pm