Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 2, 2012

Beth Ddigwyddodd Wedyn

Bant â ni heddiw i ymweld â’t teulu am wythnos, felly dyma gyfle i ddiweddaru rhai o’r cofnodion diweddar.

Bydd llwybr enwog Ceunant Cares yn ailagor ar ei hyd cyn diwedd yr wythnos. Mae wedi bod ar gau ers deufis oherwydd tirlithriad anferth pan gwympodd miloedd o dunnelli o graig o’r glogwyn uwchben a chario’r llwybr gyda hi i lawr i’r afon.

Mae’r llun yn dangos y math o dirwedd sydd: amhosib dargyfeirio, bu’n rhaid clirio’r holl greigiau bregus a chodi pompren. Roeddwn i’n amau a fyddai’n barod erbyn yr haf ond fe fydd. Newyddion da i’r cannoedd o filoedd sy’n tyrru yno.

Venezuela sydd ar ei hennill ar ôl helyntion gwleidyddol Paraguay: fe gafodd Paraguay ei diarddel dros dro gan Mercosur, marchnad gyffredin De’r Amerig, ar ôl i’w senedd gael gwared ar yr arlywydd drwy uchelgyhuddo.  Etholwyd Venezuela yn ei lle. Mae’r carperos, y bobl heb dir na thai, yn dal i frwydro yn erbyn y gyfundrefn lle mae’r rhan fwyaf o dir amaeth y wlad yn nwylo ychydig iawn o deuluoedd.

Mae glowyr yr Orymdaith Ddu yn dal i gerdded. Mewn 10 diwrnod maen nhw wedi teithio tua 250km, ac yn dal i obeithio gyrraedd y brifddinas erbyn Gorffennaf 11. Mae’r tir lle maen nhw nawr, yng nghanol talaith León, yn wahanol iawn i Asturias: mae’n heulog boeth, yr heol yn wastad ac yn syth – ond does ‘na ddim cysgod. Does dim symud wedi bod o chr y llywodraeth ynglŷn â’r cymorthdal.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: