Does ‘na ddim llongau mawr yn dod i Ribadesella bellach. Dim ond ychydig o gychod pysgota ac ychydig mwy o gychod hwylio. Ond ar un pryd roedd y dref, ein tref agosaf ni, yn fwrlwm. Dri chan mlynedd yn ôl, hi oedd prif borthladd Asturias, ac roedd mynd a dod mawr rhyngddi a dinasoedd chanol Sbaen. Mae’r llwybrau a heolydd sy’n croesi mynyddoedd y Cordillera Cantábrica drwy bob bwlch posib yn dystion i hynny. O’r fan hyn yr allfudodd miloedd i’r Amerig – yn enwedig i Cuba – yn ystod y 19ain ganrif, ac roedd hefyd yn allforio tunnelli lawer o gnau cyll a chnau Ffrengig.
Mae’r ffaith olaf yna yn dod oddi wrth lyfr yr wyf i wedi cyfeirio ato o’r blaen Las Tierras Altas del Cantábrico, a gyhoeddwyd yn Saesneg ym 1885. Fe ymwelodd y ddau fonheddwr Ross a Stonehewer-Cooper â’r dref, a synnu at faint y diwydiant cnau. Maen nhw’n dweud yn y llyfr bod ymgyrch i hybu tyfiant coed cyll gan bobl y wlad. Yn wir hyd heddiw mae coedlannau mewn llefydd sydd erbyn hyn wedi colli eu poblogaeth.
Roedden nhw’n barod i fwyta beth bynnag a roddwyd o’u blaenau, ond maen nhw’n rhybuddio’r darllennydd na fyddai’r ‘stumog Prydeinig’ yn gallu ymdopi â’r wythgoes. (Cael y gair yna ar y we wnes i – oes na unrhyw un yn ei ddefnyddio, neu octopws yw e i bawb?) Roedden hefyd yn synnu pan gawson nhw glased o frandi i frecwast; ond rwyf i wedi darllen o’r blaen bod hyn yn arfer yn Ffrainc yn ogystal â Sbaen bryd hynny.
Dyma Ribadesella heddiw, yn ymestyn o lannau’r afon hyd at lethrau serth y bryn. Mae’n anodd ei dychymygu yn borthladd prysur, ond mae gwybod hynny’n ffordd newydd imi ddeall cymeriad y dref.
‘Wythgoes’ imi bob gafael Cath, rwy’n ei ddefnyddio bob tro bydd eisiau cyfeirio at yr hen gyfaill, hir oes iddo ynde! Gair creu? Siwr o fod. Ond wrth gwrs, gair creu oedd ‘pwyllgor’ ar un adeg …
Diolch am eich blogiau, hynod o ddiddorol. Hoffwn fod a bysedd gwyrddion, ond mae eich blogiau ar faterion cymdeithasol yn y Penrhyn yn dod a’r lleol yn fyw.
By: Patxi on Gorffennaf 6, 2012
at 9:29 am