Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 5, 2012

O’r Ardd: Mintys y Graig

Doeddwn i erioed wedi tyfu mintys y graig (marjoram) cyn dod i Asturias. Doedd gyda fi ddim o’r amser i hau perlysiau blynyddol. Dyw e ddim yn blanhigyn cynhenid yma, yn wahanol i’w gefnder oregano sy’n tyfu’n wyllt ar y mynydd. Ond mae’n tŷ ni mewn ardal sy’n cael ychydig iawn o nosweithiau pan fydd y tymheredd yn disgyn o dan 0 gradd, a’r planhigyn ei hun mewn poced bach yn y graig sy’n wynebu’r de ac yn cael ei warchod gan y tŷ i’r gogledd. Ac yno mae wedi goroesi 5 mlynedd ac yn cyfri fel planhigyn lluosflwydd.

Dyma gardd fach y perlysiau, gyda chwpwl o lampau haul i gadw ymwelwyr rhag ddisgyn iddi. Mae gan y rhosmari a’r saets eu pocedi eu hunain yn y galchfaen. Mae’r mintys-y-graig, yn rhan isa’r llun ac i’r chwith o’r lafant, yn gorfod rhannu gyda chennin sifis a phlanhigion blynyddol fel persli. Fydd e byth yn tyfu’n uwch na hyn, rhyw 30-40cm, ond bois mae’n tyfu mewn lled.

mintys y graig ffoto:cathasturias

Dyma’r sbrigau wnes i dorri at eu sychu. Byddaf yn gwneud hynny unwaith eto cyn diwedd yr haf, a bydd digon gyda fi drwy’r gaeaf. Fydda’i ddim yn torri sbrigau ffres yn ystod y gaeaf achos dyw e ddim yn tyfu bryd hynny.

Mae’n arbennig o dda gyda chig rhost, ond hefyd yn ychwanegu blas at gyw.  Rhywbeth i’w gofio: os wyt ti’n ei ddefnyddio’n ffres, dod e fewn ar ddiwedd y coginio; os wedi sychu yw e, tua’r dechrau.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: