Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 8, 2012

Lluniau Taith

Lluniau heddiw, ac nid o Asturias. Fel wedais i, buom ni ar wibdaith i Gymru i weld y teulu. Ond na phoener. nid lluniau’r teulu sy’n dilyn, ond:

cyw gwylan ffoto:cathasturias

Roedd y cyw gwylan wedi cwympo (neu wedi ei wthio? doedd dim byd yn bod arno) o gorn simne ym Mhorthaethwy. Fe dreuliodd y ddeuddydd yr oeddem ni yno yn sefyll yn y glaw ar ochr yr heol ac yn pigo mâs ei fân blu. Wedyn aeth i’r ardd a dechrau ymarfer neidio lan a lawr y grisiau cerrig. Roedd y rhieni yn ei warchod o bell, ac yn plymio i lawr pan fyddai rhywun yn mynd yn rhy agos. Rwy’n credu taw gwylanod y penwaig oedden nhw.

Y llong rhyfedd sy’n gwneud i harbwr Dinbych y Pysgod edrych fel tegan yw’r Cameron, llong dynnu ddaeth i hôl bwi anferth oedd wedi dod yn rhydd ac wedi cael ei dynnu i fewn yno. Mae’n debyg taw rhywbeth i’w wneud gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn oedd e.

Ac i aros gyda thema’r bwi,

mae’r anifeiliaid bach hyn yn gallu creu eu bwi eu hunain ac wedyn yn teithio’r moroedd yn sownd wrtho. Dosima fascicularis ydyn nhw, buoy barnacles yn Saesneg: a oes enw Cymraeg gan rywun?  Roedd ugeiniau ohonyn nhw wedi eu gadael ar y traeth ar ôl cyfuniad o storom a llanw uchel, a rhai’n dal yn fyw: roedden nhw’n cymryd i fewn y dŵr oedd yn llifo dros y traeth a’i adael e mâs yn is i lawr.

Nôl i faterion y penrhyn yfory!


Responses

  1. Greetings from Sardinia, congratulations for the blog


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: