Anodd gwybod ble i ddechrau heddiw; mae’n ddiwrnod da i’r newyddion os nad i newyddion da.
Mae’r llog y mae llywodraeth Sbaen yn gorfod talu i fenthyg arian ar y farchnad drwy werthu bondiau wedi codi eto, i dros 7%. Mae Iwerddon, sydd newydd ddechrau gwerthu bondiau tymor-byr eto, wedi gweld cyfradd ei llog yn lleihau, hyd yn oed ar y bondiau hir a werthwyd cyn iddi gael ei hachub ddwy flynedd yn ôl. Gan fod grŵp yr € yn cwrdd heddiw i benderfynu ar delerau achub banciau Sbaen, mae’n bosib (na – mae’n debyg!) bod buddsoddwyr o rannau eraill o’r byd yn prynu bondiau Sbaen heddiw ar log uchel i geisio manteisio ar y sefyllfa.
Mae ETA wedi cadarnhau na fydd yn dychwelyd i’w ymgyrch terfysgol, ddaeth i ben fis Hydref diwethaf. Ond mae hefyd wedi beirniadu’r ffordd y mae’r llywodraeth yn symud tuag at drosglwyddo ambell garcharor o gelloedd ar draws Sbaen i rai yng Ngwlad y Basg. Maen nhw eisiau i bob un gael ei drosglwyddo yn sgîl y newid yn eu gweithrediadau nhw, yn lle cael eu trin yn unigol a chael eu symud ar ôl ‘edifarhad’.
Mae glowyr y Gorymdeithiau Duon (un o Asturias a León, y llall o Aragon) wedi cyrraedd maestrefi Madrid. Cri y rhai fu’n eu croesawu nhw : Madrid entero se siente minero – mae pobl Madrid i gyd hefyd yn lowyr. Fel Spartacus. Yng nghymoedd glofaol Asturias, mae meiri a chynghorwyr wedi eu cloi eu hunain i fewn yn eu swyddfeydd mewn cydlyniad â’r glowyr sydd yn awr wedi bod dan ddaear 40 diwrnod.
Gadael Ymateb