Fel newid o’r holl newyddion drwg, dyma ychydig o luniau o’r lleuarth.
Blodau’r olewydd yw’r rhain. Mae mwy ohonyn nhw eleni nag erioed o’r blaen, ac mae’n anodd gwybod pam. Yma yn nwyrain Asturias cawsom ni wanwyn oedd yn fis o law a mis o heulwen. Ers hynny daeth yr un math o gymysgedd i’n rhan, ond gyda thymheredd uwch – h.y. nid y tywydd sych a heulog y mae’r olewydd yn mwynhau i lawr yn y De. Yn awr rhaid aros i weld a fydd rhyw wenynen fach neu brifyn arall yn eu peillioni nhw.
Eleni am y tro cyntaf rwyf yn tyfu gweiryn lemwn ar gyfer blas De-Ddwyrain Asia. Nhw sydd yn y cefn ar y dde, ac yn y tŷ gwydr y byddan nhw’n aros. Bydd y ddau fath o frenhinllys yn cael dod mâs pan fyddan nhw ychydig yn fwy eu maint. Gair o gyngor: o’r blaen rwyf i wedi dewis ‘Minette’ wrth hau brenhinllys dail bychan. Ond un arall yw hwn, a dyw’r blas ddim cystal.
A dyma’r math o strwythur sydd ei angen i gadw’r tomatos rhag y blight – yr un salwch sy’n effeithio ar y tato. Mae ychydig o letys a sbigoglys i fewn yno hefyd, dim ond i ddefnyddio’r lle cyn bod y tomatos wedi tyfu’n fawr. Awch am y tymor casglu a bqyta!
Gadael Ymateb