Mae’r Orymdaith Ddu drosodd a bydd glowyr Asturias a chymoedd glofaol eraill Sbaen yn dychwelyd adref i frwydro unwaith yn rhagor dros eu gwaith. Ond mae rhai cwmniau yn gwneud elw mawr ym musnes glo Sbaen.
Goldman Sachs, er enghrafft. Banc, wedest ti? Banc sy’n buddsoddi miliynau o gwmpas y byd ac un o’r rheiny sy’n creu annhrefn yn y marchnadoedd arian? Wel, ie. Ond mae hefyd newydd brynu cwmni cloddio yn ardal lofaol Colombia yn Ne’r Amerig – ac wedi gofyn i lywodraeth Colombia am newidiadau yn y trwydded cloddio sydd i fod yn diogelu’r amgylchfyd.
Mae cyfran helaeth o’r glo y mae Goldman Sachs yn allforio o Colombia yn glanio yn Gijón, prif borthladd Asturias – ac un oedd arfer allforio’r glo lleol. Mae glo Colombia yn rhatach o lawer na chynnyrch Asturias ($61/tunnell yn erbyn $90.) Ar un pryd roedd y gwahaniaeth yn llawer mwy, ac roedd yn arfer – ac yn drosedd, wrth gwrs – gan rai o’r cwmniau glo preifat brynu’r glo yma a’i werthu ymlaen i’r diwydiant ynni fel glo Sbeinig. Wrth wneud hyn roedden nhw’n derbyn mwy o gymorthdal gan y wladwriaeth. Y cwmniau, h.y., nid y gweithwyr.
Mae’r glo sydd yn Gijón yn aros yna. Yn gwneud dim ond hala cymylau o lwch i’r awyr a hunan-gynnau tanau bach o bryd i’w gilydd. Hapfasnach yw’r cwbl, gyda Goldman Sachs yn betio bydd pris ‘dyfodolion’ glo yn cynyddu. Fe gafodd y cwmni ganiatad yr hen lywodraeth Astwraidd i gadw’r glo yn nociau Gijón: yn awr maen nhw’n aros i weld a fydd yr un newydd, o dan arweiniad y PSOE, yn caniatau mewnforio mwy i’w storio. Mae senedd y dalaith newydd bleidleisio dros ail-sefydlu’r cymorthdal a dorrwyd gan lywodraeth Rajoy, ond heb ddweud dim am lo Goldman Sachs.
(Yn Colombia ei hun, gyda llaw, mae cwyno mawr am effaith y cloddio ar yr amgylchfyd. Mae trigolion trefi’r mwynfeydd, a’r diwydiant twristiaeth ar yr arfordir, wedi gofyn i’r llywodraeth weithredu i wella pethau.)
Gadael Ymateb