Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 16, 2012

Arian ac Awtonomiaeth

Dywed arweinydd llywodraeth Catalunya, Arturo Mas, fod Madrid wedi bygwth rhoi gwariant y gymuned awtonomaidd o dan oruchwyliaeth ganolog. As os digwydd hynny, meddai, fe allai alw etholiadau cynnar i bobl Catalunya gael rhoi eu barn nhw.

Mae gan Catalunya bwerau eang cyhyd ag y mae gwario arian yn y cwestiwn – ac mae’n ceisio mwy, fel yr hawl i gasglu treth incwm. Ond mae llywodraeth Sbaen o dan Mariano Rajoy wedi penderfynu bod yn rhaid i’r cymunedau wneud yr un faint o doriadau ag y mae’r llywodraeth ganolog. Yn ddiddorol, llywodraeth adain-dde sydd gan Catalunya, ac mae honno wedi bod yn torri’n eithaf llym ar wasanaethau cyhoeddus ers blwyddyn bellach. Nid mater o bolisi yw e felly, ond mater o bwy sy’n cael penderfynu, a sut. Bu Mas yn feirniadol iawn o fesurau diweddaraf Madrid, gan ddweud eu bod nhw ‘wedi eu cyhoeddi heb eu hystyried yn llawn’.

Yn achos y ddeddf sy’n ymwneud â budd-daliadau pobl anabl, mae Catalunya wedi gyrru’r toriadau at Lys y Cyfansoddiad, gan ddweud eu bod nhw’n ymyrryd â hawliau cyfreithlon y gymuned.

Ond erys y ffaith taw Catalunya (sydd ag economi ‘run faint â Phortiwgal) yw’r gymuned Sbeinig gyda’r dyledion mwyaf; hawdd felly i Rajoy a’i weinidogion bwyntio bys tuag at y gogledd-ddwyrain wrth geisio rhoi’r bai ar rywun.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: