Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 19, 2012

O’r Ardd ar Ddiwrnod o Haul

Wel, bore o haul oedd hi yn y diwedd. Y math o fore byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan ein bod ni’n tynnu at ddiwedd Gorffennaf, a chyfle braf i godi’r garlleg. Maen nhw o faint eithaf teidi eleni, yr unig broblem yw bod y coesyn wedi pydru fel na alla’i eu plethu i’w hongian.  Mae’r wynwns hefyd yn edrych yn dda a byddwn ni’n codi rheina o fewn wythnos neu ddwy.

Siom fawr 2012 yw’r ffrwythau. Oes mae digon o gwrens duon i wneud cyffaith yn ogystal a sorbet. (Rwy’n gwybod fy mod i wedi colli’r to bach – am ryw reswm dyw ALT/llafariad ddim yn gweithio heddiw. Ydy Mac wedi newid llawer o bethau bach fel yna? ) Ta beth, y ffrwythau. Y mafon – neu’r cansenni lle mae mafon i fod wedi ymddangos: bron dim. Y mefus ‘run peth. Y coed eirin a’r kaki yn wag eu canghennau a hyd yn oed y clesin yn brin. Rhaid cyfaddef bod y rhai sy’n blodeuo’n hwyrach, y coed afalau a’r gellyg, yn dod yn dda.

Ac un peth sydd wedi gweithio (mae wastod rhywbeth) yw’r perlysiau yn y tŷ gwydr (OK, dim ond ALT/a sydd ddim yn gweithio). O’r diwedd rwyf yn deall rysait Franco Taruschio ar gyfer pesto, sy’n dechrau ‘cymer 25 o ddail y brenhinllys’.  Dyw hynny ddim digon i de doli medde fi. Ond mae’r dail eleni yn anferth, 10cm o hyd a 4 o led, ac yn bersawrus dros ben. Pesto heno!

ON ar y broblem to bach: rwy’n credu taw WordPress sydd wedi dechrau defnyddio’r ALT A i wneud rhywbeth arall. Mwy pan ga’i ateb.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: