Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 22, 2012

Cylchran yr Iwerydd

Cwestiwn sydd gyda fi heddiw. Faint o wybodaeth sydd yng Nghymru am Gylchran yr Iwerydd? Achos mae Cymru’n rhan ohoni, ond er bod llawer o sylw iddi gan y cyfryngau fan hyn yn Asturias does byth neb o Gymru i’w weld yn y gweithgaredddau.

Y penwythnos hwn, er enghraifft, mae gŵyl gerddoriaeth yn Xixón. Bandiau o Iwerddon a Llydaw, neb o Gymru. Y seremoni agoriadol mewn 5 iaith, gan gynnwys Astwreg, ond nid yn Gymraeg. Yn anffodus doeddwn i ddim yn gwybod o flaen llaw ei bod hi ymlaen neu byddwn i wedi mynd a cheisio mwy o wybodaeth.

Ond o’r hyn yr wyf i wedi ei gael ar y we, nid dim ond rhyw fath o ‘uwch-efeillio’ yw e. Mae hefyd yn gorff sy’n ceisio hybu economi gwledydd yr Iwerydd, o Bortiwgal i’r Alban. Mae wedi bodoli ers dros 20 mlynedd, ac wedi edrych ar bethau fel porthladdoedd yr Iwerydd. Mae porthladdoedd arfordir gogledd Sbaen yn ffynnu er gwaethaf cyflwr yr economi, gyda mwy o nwyddau a phobl yn eu defnyddio. Ond beth am borthladdoedd Cymru? (Cwestiwn arall).

Byddwn i’n meddwl bod unrhyw gysylltiadau tramor fel hyn yn mynd i fod yn gymorth i ledu gwybodaeth am Gymru. Yn dechnegol Sbaen a’r DU sy’n aelodau, ond dyw’r ffaith nad yw’r un blaid yn rheoli yn Madrid ac yn Uviéu/Oviedo ddim wedi rhwystro Asturias rhag cymryd rhan. (Na chymunedau eraill y Cantábrico). Beth amdani?

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: