Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 24, 2012

Hanes Sbaen mewn Bywyd

Gyda Sbaen eto’n byw cyfnod anodd, y tro hwn oherwydd arian ac nid unbeniaeth, bu farw yr olaf o ‘dadau’r cyfansoddiad’, Gregorio Peces-Barba. Yn yatod y 5 mlynedd diwethaf mae’r 4 fu’n gyfrifol am lunio cyfansoddiad Sbaen (ar ôl marwolaeth Franco a chyn etholiad 1982) wedi marw.

Mae cwpwl o bethau am ei fywyd sy’n werth eu hystyried yn awr, dim ond I weld faint mae bywyd fan hyn wedi newid. Cafodd ei eni yn Madrid yn ystod Rhyfel Sbaen. Pan ymunodd ef â’r blaid sosialaidd, y PSOE ym 1972, roedd y blaid honno’n gorfod gweithio yn gyfrinachol: ni chaniateid gwrthbleidiau. Cyn hynny, roedd e wedi amddiffyn un o aelodau ETA yn y llys; roedd hyn yn gyfnod pan oedd ymgyrch ETA yn dal i gael ei weld fel agwedd arall o’r ymgyrch yn erbyn yr unbeniaeth.

Cyn ac ar ôl iddo weini fel aelod seneddol roedd yn ddarlithydd, ac yna’n athro, yn y gyfraith, yn arbenigo mewn hawliau dynol. Cyfnod o ymgyrchu ac ennill, felly, oedd ei fywyd ef.

Heddiw wrth i Catalunya ymuno â’r rhestr o gymunedau awtonomaidd sy’n gorfod gofyn i Madrid am fwy o arian i’w hachub (a Madrid wedyn yn mynd at Ewrop…) mae’r chwarae wedi troi’n chwerw. Fe aeth pobl Sbaen mewn cyfnod cymharol fyr o fod yn gorfoleddu eu bod nhw wedi byw i weld democratiaeth, i fod yn ddirmygus o’r holl wleidyddion sydd gyda nhw. A hyd nes y gwelwn ni wleidydd sy’n ennill eu parch eto, fydd hynny ddim yn newid.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: