Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 27, 2012

Pethau Gwyllt

Am dro i lawr yr afon – ychydig iawn o ddŵr oedd ynddi, wrth gerdded ar hyd ei glannau am 3km dim ond mewn un rhan fach neu ddwy islaw’r felin yr oedd yn llifo o gwbl. Ar ei glannau hefyd, enghraifft o blanhigyn a gafodd ei fewnforio fel blodyn gardd a dianc yn llwyddiannus nes iddo gael ei ystyried yn chwyn bron.

Guadamia crocosmia ffoto:cathasturias

Montbretia fyddwn i’n galw hwn, ond crocosmia sydd yn well gan y botanegwyr. Yn wreiddiol o Dde’r Affrig, mae wedi ymgartrefu’n hapus yng Nghymru, yma yn Asturias, ac o’r hyn rwy’n deall yng ngorllewin Iwerddon hefyd. Gas gyda fi ei weld e fel hyn wedi cymryd drosodd cymaint o dir: mae’r holl ddail yna rywsut yn fy nghythruddo i’n fwy na dyweder y lili cala, sydd yn blodeuo ar hyd yr afon yn y gwanwyn ac sydd hefyd yn flodyn dŵad.

Yn ôl yn yr ardd, a blodyn arall oedd yn mynnu sylw. Fi sydd wedi prynu hwn, felly gobeithio na fydd pobl mewn can mlynedd ddim yn cwyno amdano fe. Mae rhyw urddas gan yr agapanthus, a’i liw glas ychydig yn ddyfnach na’r awyr.

Ond beth ddaliodd fy sylw oedd iâr fach yr haf – co hi ar y gwaelod, ar y dde. Mae’n edrych fel yr rhai gwynion yna sy’n gadael i’w plant ddistrywio’r bresych, ond na. Pan agoredd ei hadennydd (dim gobaith ‘da fi gael llun tra’r  oedd hi’n symud) roedd y rhan flaen yn wyrdd golau a’r rhan gefn yn felyn. O edrych yn y llyfr fe all fod yn Cleopatra, ond bydd rhaid imi wylio amdani a cheisio llun well.


Responses

  1. Naturalised montbretia just beginning to flower in the walled garden below us here in West London, where we’re always grateful for anything remotely hardy and cheerful. (Loquats not doing so well this year.)

    Last year in the west of Ireland (Kerry and West Cork), rhododendrons(dendra?) and fuchsia were rampant, but quite beautiful as well. Hard to blame the Victorian plant hunters for their discoveries in Asia, just as the Spanish brought tomato/potato/corn to us from the New World?

    • Google Welsh translations are scrambling my thoughts yet again (year, not month, etc)! But, one apology/correction, as I now see that fuchsia were actually Caribbean!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: