Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 28, 2012

Gwaith a Thwristiaeth

Cyhoeddwyd ffigyrau diweithdra diweddaraf Sbaen yr wythnos hon: record arall, 25% heb waith. A heddiw yn El País, erthygl yn edrych ar ffigyrau’r cymunedau awtonomaidd. Dengys y map sydd gyda nhw bod Sbaen wedi ei rhannu’n ddwy: Madrid a’r gogledd (gan gynnwys Asturias ar 21%), i gyd o dan 25%. Gwlad y Basg sy’n gwneud orau gyda 15% ar y clwt. Bobman i’r de o Madrid, dros 25%, gydag uchafswm o 33% yn Andalucia ac Extremadura.

Mae’r erthygl yn dilyn trywydd twristaidd ac yn gofyn a yw twristiaeth yn gallu cyflogi digon o bobol i wneud gwahaniaeth. Na, yw’r awgrym, gan fod Andalucia’n dioddef mor wael a hithau’n gymuned dwriataidd yn anad dim. Hyd yn oed o fewn parth y gogledd, mae Catalunya ac Ynysoedd y Baleares ymysg yr ardaloedd gwaethaf. Mae hyn yn bwysig achos mae eu tymor gwyliau nhw wedi dechrau, a rhai pobl wedi cael gwaith o’r herwydd, ond nid digon i wneud gwahaniaeth. Yng Ngwlad y Basg, ar y llaw arall, does gan dwristhiaeth ddim y rhan flaenllaw sydd ganddi yn y ddwy gymuned ar For y Canoldir.

Ond mae’n werth nodi ffaith arall am Andalucia. Hi yw’r gymuned fwyaf ei maint, a gyda hi 7 miliwn o bobl i gyd, gan gynnwys plant a phensiynwyr. Yn awr mae 1.3 miliwn yn ddi-waith: dipyn yn fwy na phoblogaeth Asturias! Am faint fydd y nifer enfawr yma yn aros yn dawel?


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: