Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 30, 2012

Diffyg Gwyliau

Mae’r nifer o bobl sydd wedi bwcio stafelloedd o flawn llaw yng ngwestyau Asturias yr haf yma ychydig dros hanner yr hyn yr oedd y llynedd – a doedd honno ddim yn flwyddyn llewyrchus o bell ffordd. Ddaw’r ffigwr ddim fel syndod, gan gymaint y Sbaenwyr sydd mas o waith a’r ffaith fod dros 90% o’r ymwelwyr sy’n dod i Asturias yn teithio o rannau eraill o Sbaen.

Mae pobl o gwmpas y lle, ar y traeth ac yn cymryd tro ar hyd strydoedd Ribadesella gyda’r nos.  Ond aros gyda’r teulu y maen nhw, neu’n gwersylla. Mae llawer mwy yn dod a bara chaws neu ham i’w fwyta ganol dydd yn lle cael y cinio oedd arfer bod yn rhan hanfodol o wyliau Sbeinig. Rhaid dweud ei bod hi o hyd yn bosib (yn bosib? mae’n digwydd ym mhob man) bwyta cinio da gan gynnwys gwin am €8 (£6.25). Ac mae’n hollol  dderbyniadwy eistedd ar deras bar gydag un diod am hydoedd: siarad a chwrdd a phobl yw’r peth. Ond mae hyd yn oed y prisiau hyn yn awr yn ormod i filiynau o Sbaenwyr, fydd yn aros yng ngwres y canoldir drwy’r haf ac yn teimlo hyd yn oed yn waeth.

Ac mae eu habsenoldeb hwy yn golygu llai o waith i bobl Asturias, ac felly mae’r rhod yn troi.

 

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: