Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 1, 2012

Calan Awst

Calan Awst. Dechrau cynhaeaf y grawn yn yr hen ddyddiau, dechrau tymor gwyliau prysuraf y flwyddyn yn Sbaen heddiw. Ond er bod y gwynt wedi bod o’r de,  ychydig iawn o sŵn y draffordd y mae wedi cario atom ni yn ystod y dydd. Neithiwr a heddiw, fe ddylsai fod miliynau o Sbaenwyr yn gadael eu cartrefi yng ngwres y canoldir (40C ac yn uwch). Pawb i fewn i’r car gyda phopeth sydd ei angen am bythefnos ar lan y môr . Gyrru drwy’r nos a chroesi’r mynyddoedd cyn ei weld yn las yn y pellter.

Ond eleni, llai. Mae hyd yn oed y rhai sydd mewn gwaith yn ofni am y dyfodol. Ac yn y presennol maen nhw’n wynebu tollau uwch ar y draffyrdd (mae nawr yn rhatach hedfan o Asturias i Madrid nag yw e i ddreifio), toriadau ar y gwasanaeth trên a chodiadau ym mhris tocynnau, a threthi uwch ar ben hynny. Mae trefi glan mor lle roedd parcio am ddim yn awr yn codi amdano.

Nid fy mod i am weld twristiaeth yma fel sydd yn y de! Ond ar hyn o bryd mae ‘na ddigon o le i bawb, a dyw gorwedd ar y traeth yn costio dim hyd yn oed os oes rhaid cerdded yno i arbed talu am barcio.  Ac yn ystod yr wythnos i ddod mae gyda ni Ras y Ceufadau ar afon Sella a fiestas y pentref. Digon o hei-leiff i unrhyw un.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: