Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 2, 2012

Pigion Haf

Mae 1,800 o bobl wedi cael gwaith yn Asturias yn ystod y mis diwethaf (Mehefin). Yr haf a’i ymwelwyr, wrth gwrs, sy’n gyfrifol. Ond o edrych ar y ffigyrau mewn modd arall, fe welir bod 14,500 yn rhagor o bobl yn derbyn taliadau di-waith o’i gymharu â’r un mis yn 2011.

Fe gododd tymheredd Môr y Cantabrico 1C ar gyfartaledd dros gyfnod o 30 mlynedd. Yn ôl adroddiad yn ‘Estuarine, Coastal and Shelf Science” (hyd y gwelaf i dyw e ddim ar gael ar y we ar ffurf rhad) mae hyn wedi achosi newidiadau mawr mewn sawl math o wymon. Y gwymon mawr sy’n dioddef fwyaf, ac mewn rhai ardaloedd mae algas laminares (kelp yn Saesneg) wedi diflannu. Does ‘na ddim byd eto am sut y gallai hyn effeithio ar bysgod a chreaduriaid eraill.

Daeth y glowyr i ben eu protest danddaear heddiw. Dydyn nhw wedi ennill dim. Cynhaliwyd un cyfarfod yn Madrid i drafod dyfodol y diwydiant (a’r cymoedd) ond roedd hwnnw hefyd yn cael ei ddisgrifio’n fethiant gan yr undebau a’r llywodraeth.

Methiant hefyd fu ymgyrch diweddaraf arweinwyr parth yr € a Banc Canolog Ewrop i wella sefyllfa Sbaen a’r Eidal. I’r gwrthwyneb, cwympo wnaeth gwerth cwmniau mawr Sbaen a chodi wnaeth cyfradd llog y llywodraeth.

Ond mae’r bois wedi bod yn paratoi’n safle ar lan afon Sella ar gyfer gwylio Ras y Ceufadau ddydd Sadwrn, a heno byddwn ni gyd yn eistedd lawr i wledd o diwna a seidr.

 

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: