Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 3, 2012

Arferion Sbeinig

Mae Sbaen yn wahanol. Mae hwn yn swnio fel slogan i ddenu ymwelwyr, ond mae’n ffaith. Dyma rai o’r arferion, neu ffyrdd o ymddwyn, a allai ymddangos yn rhyfedd inni’r Cymry.

Mae plant, gan gynnwys plant pobl eraill, yn cael eu trin fel tywysogion/esau bach. Mewn grwp lle mae plentyn, y plentyn yw canolbwynt pawb. Mae dyn dieithr yn cael cofleidio plentyn nad yw e erioed wedi ei gwrdd o’r blaen, yn wir mae disgwyl iddo wneud hynny. Bydd hyd yn oed bechgyn yn eu harddegau yn chwarae gyda ac yn gofalu am blant bach eu cymdogion neu gyfeillion eu rhieni. Ond mae plant hefyd yn cael rhyddid eang; os byddi di’n cerdded drwy dref neu bentref tua 6 o’r gloch y nos, bydd bandiau o blant yn chwarae pêldroed neu’n rhedeg o gwmpas.

Mae pobl yn cyfarch ei gilydd. Pan wyt ti’n cerdded mewn i siop, rwyt ti’n dweud buenos días yn gyffredinol, i bawb, ac maen nhw’n ateb. Heddiw roeddwn yn cerdded drwy’r pentref pan ddaeth llanc ifanc y ffordd arall yn siarad ar ei ffôn symudol. Doeddwn i ddim yn ei nabod e, ond fe adewodd e ei sgwrs am eiliad i’m cyfarch. Mewn tŷ bwyta, bydd cwsmeriaid eraill yn dymuno pryd da iti wrth fynd heibio dy ford. Mae hyn yn digwydd hyd yn oed yng nghanol y mynyddoedd os bydd rhwyun yn pasio pan wyt ti’n eistedd i lawr i fwyta dy frechdanau.

Sbaen yn wahanol. Neu Asturias sy’n wahanol? Neu cefn gwlad sy’n wahanol?


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: