Ond yw hi’n rhyfedd sut mae rhai pobl, pobl y seddi mawr, wir yn meddwl eu bod nhw’n wahanol inni’r gweddill? Yn fwy haeddiannol rywsut? Heddiw daeth i’r amlwg copi o fil prydau bwyd arbennig y Weinyddiaeth Waith yn Madrid: €3,700 mewn mis (Mehefin fel mae’n digwydd) ar fwyd i uwch swyddogion. Dyna’r swyddogion sy’n derbyn cyflog uwch na neb arall.
Mae bachan o Ronda wedi cerdded yr holl ffordd i Madrid i ofyn i’r senedd pam nag oes swydd ar ei gyfer. Fe gymrodd dair wythnos iddo, yn cysgu yn yr awyr agored ac yn holi pawb a gyfarfu a gai waith. Na, oedd ateb pawb. Gan ei fod e allan o waith ers tair blynedd, dyw e ddim yn derbyn dimai yn daliadau diweithdra.
Fel rhan o ymdrech y llywodraeth i gael mwy o arian mewn trethi, bydd plant ysgol yn gorfod talu TAW ar y raddfa uchaf, 21%, ar eu llyfrau ysgrifennu a’u beiros y tymor nesaf. Bydd y rhai sy’n dysgu arlunio yn lwcus, achos bydd llyfrau braslunio yn aros yn 4%.
Mewn pol piniwn atebodd 89% o bobl Sbaen fod cyflwr economaidd yr wlad yn ddrwg, neu’n ddrwg iawn. Beth ddiawl oedd ym meddwl y 10% arall? Gormod o haul, neu seidr, efallai.
Gadael Ymateb