Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 7, 2012

San Mames

Heddiw oedd diwrnod cyntaf fiestas haf ein pentref ni. San Mames yw nawddsant yr eglwys, yr un sant sydd yn enw stadiwm Athletic Bilbao. Daeth y cymdogion i’r pentref ac i’r bar i’w dathlu gydag offeren a cherddoriaeth y pibgorn a’r drwm.

Dyma’r orymdaith yn dychwelyd i’r eglwys cyn dechrau’r miri. Rywle tu ol i’r faner mae cerflun y sant! Rhaid dweud bod llawer mwy wedi mynd i’r bar nac i’r eglwys. Rhywbeth arall oedd yn newydd, yn llythrennol, oedd y babanod. Rwy’n siwr bod hanner dwsin ohonyn nhw o dan flwydd oed. Nid yw pob un yn byw yn y pentref, ond maen nhw wedi mynychu eu fiesta gyntaf yno.

Wrth aros i’r offeren i orffen roeddem ni’n edrych ar y coed sydd o’i blaen. Nid coed cynefin mo rhain. Ac roedd un ohonyn nhw yn ddieithr i bawb, nes imi fynd i chwilota:

Albizia julibrissin ffoto:cathasturias

Math o mimosa yw e, Albizia julibrissin yw ei enw gwyddonol, ac mae’n hanu o unrhyw le rhwng Iran a Siapan. Mae’r blodau, o edrych arnyn nhw’n unigol, yn debyg iawn i’r lampau ffibr-optig. Y cwestiwn yn awr yw pryd y plannwyd y coed yma (maen nhw’n aeddfed) a sut y’i dewiswyd. Heno, mwy o fiesta.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: