Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 12, 2012

Drannoeth y Ffair 2012

Reit, mae wythnos fiestas yr ardal fach hon drosodd: fydd na ddim un nawr tan fis Hydref. Neithiwr tro’r pentref nesaf oedd hi, a phawb yn trafod a fyddai’n bosib gweld y lluvia de estrellas yn oriau mân y bore. Meteorynnau’r Perseids yw’r ‘cawod o sêr’ dan sylw, a adwaenir hefyd fan hyn fel dagrau San Lorenzo am eu bod yn dod yn fwyaf cyflym ar ei ddydd gwyl ef.

Ond yn anffodus roedd cymylau niwlog wedi gorchuddio’r wybren a doedd dim golwg o’r lleuad, heb son am y cawod o sêr. Flwyddyn nesaf, efallai.

Mae ffigyrau’r ffair gaws yn werth eu cofnodi: fe werthwyd dros 3000 kilo o gaws – 300k o Cabrales, yr un drutaf, gyda gwerth cyfanswm o €45,000. Hyd yn oed os wyt ti’n cymryd bod llawer yn dod i brynu caws i’w gadw, roedd y rhan fwyaf yn ei fwynhau’r un noswaith yn y maes.  Sy’n golygu ein bod ni’n filoedd yn eistedd ar y borfa ac yn yfed seidr wrth i’r haul fachlud. Achos does neb yn gallu bwyta cymaint â hynny o gaws – 100g? 150?

Ond bore fory bydd rhaid meddwl eto am bethau’r byd beunyddiol. Cael gwaith, cadw gwaith, magu plant, gofalu am famgu. Gyda’r gobaith o dreulio noson y ffair gaws ar y maes eto’r flwyddyn nesaf.

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: