Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 13, 2012

Crwydro yn y Coed

Nid taith gerdded oedd hi mewn gwirionedd, ond ymgais i ganfod ffordd o un pen o’r sierra fach yng nghefn y ty i’r llall – ar yr ochr ddeheuol. Gadael pentref Nueva a dringo, dringo, nes ein bod ni’n cael golygfa eang o’r arfordir a bae’r Guadamia.

Disgyn wedyn ar yr ochr arall, a cholli hynny o lwybr oedd wedi bod gyda ni. Ymlaen drwy’r rhedyn a’r eithin, lan a lawr rhiwiau serth gyda’r sierra byth a hefyd ar ein hochr de.

Mae’n enghraifft perffaith o dirlun mynyddoedd Asturias: ar yr ochr ogleddol, mae’n plymio bron yn syth i ryw 50m uwchben y mor. Ar yr ochr yma, tua hanner ffordd ilawr mae’r llethr yn mynd yn fwynach, a choed yn gallu tyfu. Yn wir y coed oedd sêr y diwrnod: derw, bedw, celyn a ffawydd, a hyd yn oed pin cynhenid. Gwerth eu gweld ac yn gysgod rhag haul canol dydd. Ar y llethrau isaf, roeddem ni wedi cerdded rhwng castanwydd, ac yna’r ewcaliptws melltigedig sy’n cael eu tyfu’n amaethyddol-ddiwydiannol.

Coed hen oedden nhw hefyd: mae’r eiddew yna’n dewach na boncyff ambell goeden yn yr ardd. Ond methiant fu’r ymgyrch i gael hyd i’r llwybr – tan inni ei throi hi am adref. Wedyn, wrth gwrs, ymddangosodd hen lwybr y torwyr coed. Ond ei ddilyn e tuag adre wnaethom ni, felly bydd rhaid inni geisio eto, a hynny ar ddiwrnod llai twym.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: