Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 14, 2012

Tynged y Llyffant

Un o cantorion mwyaf hynaws y gwanwyn yma yn Asturias yw’r llyffant fydwraig (Alytes obstetricans – myfi sydd wedi bathu’r enw Cymraeg o fethu canfod un ar y we). Er gwaetha’r enw, y gwryw sy’n gofalu am yr wyau, ac yn eu cario ar ei gefn am rai wythnosau cyn gadael nhw’n rhydd mewn pwll neu nant. Efe hefyd sy’n canu, yn gynharach yn y broses, er mwyn denu partneriaid. Wrth gerdded ar hyd yr ardal o wlyptir rhwng y tŷ a chanol y pentref, mae’n bosib clywed degau ohonyn nhw. Mae eu sain yn debyg i dylluan sgops , yn un nodyn uchel pur ac yn cael ei ailadrodd droeon. Lluniau bendigedig ym mlog Naturaleza Cantábrica. Mae dolen i´r blog hwn ar y dde o´r tudalen, achos mae wastod rhywbeth diddorol gan David.

Trist felly oedd darllen yn y papur heddiw am y ffwng sy’n lladd y llyffantod hynod yma. Mae’n debyg taw math o froga a ddaeth o Dde’r Affrig fel rhan o ymchwil gwyddonol ddaeth â’r ffwng i Ewrop. Mae’r brogaod hyn yn gallu cydfyw â’r ffwng heb broblemau, ond nid felly’r llyffant fydwraig.  Hanes heddiw oedd bod Cymuned Madrid wedi ymgartrefu 600 ohonyn nhw mewn parc gwlad, lle’r roedd y boblogaeth gynhenid wedi marw.

Ond faint o help fydd hynny dwi ddim yn sicr: os yw’r ffwng wedi ymsefydlu yn yr ardal, oni fydd yn ymosod ar y llyffantod newydd hefyd?


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: