Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 15, 2012

Llosg yr Haf

Rydym ni yn Asturias wedi bod yn lwcus eleni. Un o ganlyniadau’r niwl a’r glaw ddechrau’r haf yw nad oes miloedd o hectarau o dir mynydd a chomin yn llosgi’n ulw. Nid felly mewn rhannau eraill o Sbaen, lle mae tanau 2012 wedi distrywio mwy o lystyfiant nag unrhyw flwyddyn yn y deng mlynedd diwethaf.

Yn yr Ynysoedd Dedwydd, ar ynys Gomera, mae dros fil o bobl yn dal i gysgu mewn ysgolion a neuaddau oherwydd y perygl i’w tai. Mae’r tân yno wedi bod yn llosgi ers 11 diwrnod, er gwaethaf ymdrechion yr awyrennau sy’n gollwng dŵr arno. Maen nhw hyd yn oed wedi gorfod benthyg 2 awyren o Moroco. Yn ôl blog Naturaleza Cantábrica, mae’r ardal a losgwyd yn cynnwys rhan helaeth o’r Parc Cenedlaethol, lle unigryw oherwydd ei lystyfiant a’i fadfallod.

Ac yn awr bod 132,000 hectar wedi mynd, beth yw adwaith y llywodraethau cymunedol? Towlu gweithwyr tân ar y clwt. Mae’r Ynysoedd Dedwydd, Catalunya a Valencia wedi torri ar eu brigadau tân, ac yn awr mae Castilla-La Mancha yn mynd i gael gwared ar 680. Anodd deall hynny. Ond anodd hefyd deall beth sydd ym ‘meddwl’ y rhai sy’n cynnau’r tanau, ar eu tir eu hunain neu beidio. Eisoes mae 2 o bobol wedi marw. A dim ond canol Awst yw hi.

 

ON os oeddet ti’n hoffi lluniau’r gweision neidr (morwynion, meddai Wilias) rwyf i wedi ychwaengu 2 fan hyn.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: