Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 16, 2012

Ochr Arall y Costa

Benidorm, Torremolinos, Málaga. Mae enwau’r trefi hyn yn ne Sbaen wedi bod yn gyfarwydd i filiynau o dwristiaid ers y 60au. Mae’r diwydiant ymwelwyr yn dal yn hollbwysig yno, er bod y farchnad eiddo a thai wedi cwympo’n rhacs. Ond os ei di awr a hanner i’r gogledd, yn dal o fewn tiroedd Andalucía, hanes arall, ac yn wir byd arall, yw hi.

Yno mae cymaint â hanner miliwn o weithwyr yn cael eu talu fesul diwrnod – fel jermoniaid yr oesodd canol. Dydyn nhw ddim yn rhan o’r 40% sydd mâs o waith yno, ond dydyn nhw ddim chwaith yn cael gwaith bod dydd na bob wythnos. Gweithwyr amaethyddol ydyn nhw, yn symud o un cynhaeaf i’r llall. Ond eleni, mae’r sychder a’r argyfwng economaidd wedi gadael llawer yn eistedd gartref neu’n teithio pellteroedd i chwilio am waith.

Mewn un dref yn nhalaith Jaen, yr arfer yw gweithio’r haf yn torri asbaragws yn Navarra, 800km i ffwrdd yng ngogledd-ddwyrain yr wlad. Yr hydref wedyn yn Ffrainc yn casglu grawnwin yn y gwinllannau, cyn dod adref i weithio cynhaeaf yr olewydd. Eleni, bu llai o alw amdanyn nhw yn Navarra. Maen nhw eisoes yn gwybod taw dim ond hanner y nifer arferol fydd yn cael gwaith yn Ffrainc. Ac mae ffermwyr yr olewydd yn rhybuddio y bydd cynhaeaf eleni hyd at 70% i lawr o’i gymharu a llynedd. Hefyd wrth gwrs mae sôn bod aelodau teuluoedd fferm, wedi colli eu swyddi mewn diwydiannau eraill, yn gwneud y gwaith.

Sdim rhyfedd bod yr jornaleros, fel y glowyr, ar y stryd yn ceisio cael sylw’r llywodraeth. Ond mae’r llywodraeth honno’n canolbwyntio ar leihau’r arian sy’n cael eu dalu i’r diwaith, nid ychwanegu mwy o bobl i’r rhestr. Yr wythnos hon a’r nesaf fe fyddan nhw’n gorymdeithio drwy drefi Andalucía: gobeithio o leiaf y cân nhw rhyw fath o sylw gan y cyfryngau.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: