Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 17, 2012

Dyddiau Ynfyd Hirfelyn Tesog

Bron yn 30C heddiw. Nid fel yr haf diwethaf! Mae Asturias yn mwynhau tymheredd uchel ers bythefnos nawr, a’r unig gawodydd o law wedi dod dros nos. Byddwn i yn bersonol yn barod i bleidleisio dros rywun oedd yn gallu addo hynny a’i gyflawni.

Roedd y farchnad yn brysur y bore ‘ma: pobl sy’n rhentu tai am ail hanner y mis wedi cyrraedd ac yn cerdded o gwmpas yn dal rhestrau hir yn eu dwylo.  Am hanner dydd cyrhaeddodd dwy gyfeilles o Gymru, wedi bod yn gyrru drwy de Ffrainc a gogledd Sbaen. Cinio (salad) ar y teras o dan y parasol newydd, hoe fach wedyn cyn cerdded i lawr yr afon i’r traeth a phlymio i’r dŵr.  (O ie, a gwelsom ni las y dorlan hefyd.)

Roedd hi’n amser llanw, a dwsenni o bobl fraich wrth fraich ar y lan – dim tywod i’w weld o gwbl. Ond o nofio mas dipyn bach roedd hi mor dawel, gellid meddwl dy fod ar dy ben dy hun. Eistedd yn yr haul am hanner awr, ond roedd hi’n rhy dwym i hynny, a beth bynnag roeddem ni eisiau fynd adref i ymgawodu (?) cyn heno.

Achos heno mae gem o bolos (bôls Asturias) yn y pentref nesaf, ac wedyn byddwn ni’n rhannu pryd o wythgoes wedi ei goginio mewn sawl ffordd. Mwy am hynny yfory.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: