Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 19, 2012

Blodau’r Clogwyni

Heddiw fe gyrhaeddodd hi 30 gradd C. Rhy dwym i wneud dim ond eistedd ar y teras, bwyta salad a chlebran. Ond fe gafodd rhywun (fi) y syniad gwallgo o fynd am dro i lawr yr afon (iawn, digon o gysgod) ar draws y traeth ac ar hyd y clogwyni (yn llygad yr haul). Dyma gwpwl o’r planhigion a welsom:

Lafant y môr yw hwn. Roedd digonedd ohono’n blodeuo ar hyd y llwybr. Ei gefnder clustog Fair wedi cwpla blodeuo erbyn hyn.

Elinog

Ac rwy’n weddol hyderus taw elinog yw hwn, yn tyfu ar ei ben ei hunan bach reit yn ymyl y dibyn.

A dweud y gwir mae hi hyd yn oed yn rhy dwym i feddwl, felly rwy’n mynd i adael pethau fan yna a mynd i chwilio am ddiod o ddŵr.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: